

FEL A DDARLLEDWYD AR BBC ONE CYMRU A NEWYDDION ITV
Am fwy na degawd, mae Cronfa Ddata SAIL wedi bod yn helpu llywodraethau, cyrff cyhoeddus, y GIG a sefydliadau eraill i ddatgloi potensial llawn eu data i ddatgelu mewnwelediadau i’w data, a thrwy hynny, wella bywydau cleifion a’r cyhoedd yn ehangach.
“Nid yw’r angen am adnodd o’r fath erioed wedi bod yn fwy.” – Vaughan Gething…

Mae Cronfa Ddata SAIL wedi bod yn hanfodol i statws Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes Gwyddor Data Poblogaethau.
Fel ased hynod werthfawr i Gymru ac economi Cymru, mae Cronfa Data SAIL yn hwyluso ymagwedd amlddisgyblaethol at ddatblygu, profi, gwerthuso a gweithredu ymyriadau iechyd cyhoeddus. Mae wedi’i chydnabod fel Canolfan Rhagoriaeth ym Mhrifysgol Abertawe a menter o’r radd flaenaf sy’n cydweithio â sefydliadau ac ymchwilwyr rhyngwladol blaenllaw.
Mae’r ymddiriedaeth a’r hyder sydd gan Lywodraeth Cymru yng Nghronfa Ddata SAIL wedi’i hennill dros y 12 mlynedd diwethaf.
Cyflawnwyd hyn diolch i sawl nodwedd allweddol Cronfa Ddata SAIL. Mae ei gwasanaeth lanlwytho data a brofir ar sail amser yn galluogi rheolwyr data i barhau i reoli eu data a gosod y paramedrau ar gyfer ei ddefnyddio mewn gwaith ymchwil. Mae hyn yn lleihau risgiau i ddiogelwch data, gan sicrhau mantais bellgyrrhaeddol i’r gymdeithas pan fydd y llywodraeth yn gweithredu arno.
Mae’r broses gadarn hon yn hwyluso’r broses o osod amodau penodol ar ddata pan fydd ymchwilwyr yn ei gyrchu. Caiff y rheolau hyn eu gorfodi a’u cryfhau gan ein panel o ddefnyddwyr, y Panel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth annibynnol, ein Bwrdd Ymgynghori Gwyddonol a Grŵp Rheoli Cronfa Ddata SAIL.
Mae amgylchedd Cronfa Ddata SAIL wedi’i ardystio gydag ISO 27001 a’i achredu gan Awdurdod Ystadegau y DU yn gweithredu yn unol â fframwaith cyfreithiol a rheoleiddio cadarn mewn perthynas â defnyddio data unigolion. Mae Cronfa Ddata SAIL yn lleihau’r risg i ymchwilwyr sy’n gysylltiedig â chasglu, storio a dadansoddi data sensitif.
Mae proses ymgeisio dau gam cyflym a syml i weithio gyda’r data sy’n cael ei gadw gan y gronfa yn golygu bod mynediad at Gronfa Ddata SAIL yn lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i gyrchu data ar y raddfa hon yn draddodiadol yn drawiadol.
Mae’r data poblogaethau cyfoethog sy’n cael ei gadw yng Nghronfa Ddata SAIL, a’i gydymffurfiaeth â phrotocolau llywodraethu llym, yn hwyluso ymchwil ar sail tystiolaeth a llunio polisi o’r radd flaenaf sy’n arwain at benderfyniadau strategol gwell a pholisïau sy’n gadarn yn economaidd.
GAN CHRIS ROBERTS, PRIFYSGOL ABERTAWE
For reference to SAIL Databank, watch Welsh Government COVID-19 Briefing and Press Conference news broadcast on BBC One Wales on 31 March 2020 (from 20:30) //://twitter.com/WelshGovernment/status/1244950577286533121
Related Twitter Post //://twitter.com/PopDataSci_SU/status/1245242850389999617
SAIL Databank is one of the nine Centres of Excellence based in Population Data Science at Swansea University Medical School.