

Yn gynharach y mis hwn, mewn Datganiad gan y Cabinet, cyfeiriodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, at y rôl bwysig a fydd gan “ddatblygiadau technolegol” i gefnogi gallu’r llywodraeth ddatganoledig i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i’r Coronafeirws.
“Mae’n rhaid inni ddefnyddio’r gorau y gall y technolegau newydd hyn ei gynnig, a hynny mewn ffyrdd sy’n ddibynadwy ac yn ddiogel ac sy’n helpu i wireddu’n hamcanion cyffredinol, sef achub bywydau a bywoliaethau.”
– Vaughan Gething, AS.
Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (DHEW) yw’r fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru i uno rhanddeiliaid wrth iddyn nhw ymchwilio i arloesi technolegol ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Ffrwyth cydweithrediad yw DHEW rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Bu Uwch Reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data Cronfa Ddata SAIL, Ashley Akbari, yn siarad â DHEW am ymateb Cymru’n Un. Mewn blog a ysgrifennwyd ar gyfer DHEW, mae Ashley yn sôn am y ffordd y mae technoleg yr Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (TRE) sy’n sail ar gyfer Cronfa Ddata’r Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn cefnogi partneriaid Cymru’n Un i gael goleuni pellach a fydd yn arwain at lunio polisïau allweddol wrth fynd i’r afael â’r Coronafeirws yn ogystal â meithrin y diwylliant a’r ysbryd cydweithredol sydd wedi nodweddu’r gwaith sydd wedi’i gyflawni yng Nghymru.
