

Mae’r astudiaeth ymchwil newydd, sy’n ymchwilio i risgiau COVID-19 ar gyfer gweithwyr gofal iechyd o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), wedi cael ei lansio yn sgil tystiolaeth bod cyfrannau uwch o farwolaethau cysylltiedig yn cael eu cofnodi yn y grwpiau hyn – mwy na dwywaith y gyfradd yn y boblogaeth wen.
Arweinir yr astudiaeth, UK-REACH (Ymchwil y DU i ethnigrwydd a chanlyniadau COVID-19 mewn gweithwyr gofal iechyd), gan Brifysgol Caerlŷr ac mae’n cael ei hariannu drwy grant gwerth £2.1m gan Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR). Bydd tîm y prosiect yn gweithio gyda mwy na 30,000 o aelodau staff clinigol ac eraill i asesu eu risg mewn perthynas â COVID-19, drwy ddadansoddi dros ddwy filiwn o gofnodion gofal iechyd.
Bydd Banc Data SAIL yn darparu Amgylchedd Ymchwil y Gellir Ymddiried ynddo i UK-REACH, lle bydd cofrestri gweithwyr gofal iechyd ar draws cynghorau cofrestru proffesiynol a’r GIG yn cael eu cysylltu – ar ôl dileu’r manylion personol – i greu data gwaelodlin o’r boblogaeth o weithwyr gofal iechyd. Yn ogystal â’r data gwaelodlin hwn o’r cofrestri, bydd cysylltiadau’n cael eu creu hefyd â chofnodion iechyd cyffredinol ar draws y DU, gan gynnwys data o ofal sylfaenol ac eilaidd a chronfeydd data o brofion a monitro COVID.
Ymysg ei setiau data, mae Banc Data SAIL hefyd yn cynnig Amgylchedd Ymchwil y gellir Ymddiried ynddo ar gyfer BREATHE – yr Hyb Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Resbiradol. Mae’r cyhoedd yn darparu data BREATHE drwy’r ap astudio symptomau COVID-19, ZOE, sydd bellach wedi cael ei lawrlwytho gan dros 4 miliwn o bobl sy’n ei ddefnyddio i fonitro eu hiechyd pob dydd a symptomau posib y Coronafeirws.
Bydd y setiau data helaeth sydd gan Fanc Data SAIL, ynghyd â’i allu i’w dadansoddi a’u cysylltu, yn help i gynnal ymchwil hanfodol a darparu tystiolaeth i lunwyr polisi fel y gellir gwneud penderfyniadau pwysig.
Meddai’r Athro David Ford, Cyfarwyddwr Banc Data SAIL a Phrif Swyddog Data BREATHE,
“Rydym wrth ein boddau’n cefnogi’r astudiaeth bwysig hon. Ein rôl ni fydd gweithio gyda’r sefydliadau a’r asiantaethau niferus ledled y DU sydd â data sy’n berthnasol i ddeall sut mae’r feirws COVID wedi effeithio ar weithwyr gofal iechyd o gefndiroedd BAME, a chynorthwyo wrth greu setiau data cysylltiedig – heb fanylion personol – o dros 2 filiwn o bobl. Bydd yr adnodd hwn, a grëwyd am y tro cyntaf, ond sy’n cael ei gadw’n ddiogel, yn unol â rheolau llywodraethu cryf, yn gallu darparu gwybodaeth bwysig newydd am sut mae COVID-19 wedi effeithio ar staff gofal iechyd o gefndiroedd BAME ledled y DU.”
Meddai’r Gweinidog Gwyddoniaeth, Amanda Solloway:
“Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar ein bywydau ni i gyd, ond mae’n drist nodi bod yr afiechyd erchyll hwn yn effeithio mewn modd anghymesur ar bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae angen dybryd i ddeall y rhesymau cymhleth am hyn yn well. Bydd y prosiectau newydd hyn yn galluogi ymchwilwyr i weithio’n uniongyrchol gyda grwpiau lleiafrifoedd ethnig i wella ein sylfaen tystiolaeth ac, yn bwysicaf oll, achub bywydau.”
Meddai’r Gweinidog Iechyd, yr Arglwydd Bethell:
“Mae effaith anghymesur y feirws ofnadwy hwn ar rai cymunedau lleiafrifoedd yn peri pryder mawr i mi. Mae angen i ni ddarganfod beth sy’n achosi hyn. Bydd y dyfarniadau ymchwil hyn yn rhoi i wyddonwyr Prydain yr adnoddau angenrheidiol i ateb y cwestiynau hollbwysig sy’n gefndir i’r gwahaniaethau hyn fel y gallwn fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol ac achub bywydau.”
Meddai Prif Swyddog Meddygol Lloegr a Phennaeth NIHR, yr Athro Chris Whitty:
“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod COVID-19 yn effeithio’n fwy difrifol ar bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, felly mae’n hollbwysig ein bod yn deall y ffactorau sy’n achosi’r risg hon er mwyn ymdrin â nhw’n effeithiol.
“Bydd yr amrywiaeth eang o brosiectau sy’n cael eu hariannu gan NIHR ac UKRI yn help i archwilio’r cysylltiad hwn yn fanwl, er mwyn gallu datblygu triniaethau a dulliau gofal newydd i dargedu’r grwpiau ethnig sydd yn y perygl mwyaf. Bydd yr ymchwil hon yn cynnwys grwpiau cleifion a’r cyhoedd o grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar bob cam o’r ymchwil, fel rhan annatod o’r prosiect.”
Bydd grŵp o randdeiliaid o sefydliadau cenedlaethol blaenllaw, gan gynnwys y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, Sefydliad Cyflogwyr y GIG a Chymdeithas y Gweithwyr Proffesiynol BAME, yn helpu i gynnal yr ymchwil ac yn darparu tystiolaeth i lunwyr polisi fel y gellir gwneud penderfyniadau yn gynt.
Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig cymunedau De Asiaidd a Du ac Affricanaidd Caribïaidd, bedair gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID-19, ond nid yw’r rheswm dros y risg uwch hwn yn hysbys.
Related News
Covid studies to examine virus link with ethnicity //://www.bbc.co.uk/news/health-53565655#
Working on the ward: investigating the risks of COVID-19 for ethnic minority healthcare workers //://mrc.ukri.org/news/blog/working-on-the-ward-investigating-the-risks-of-covid-19-for-ethnic-minority-healthcare-workers/?utm_medium=email&utm_source=govdelivery