

Bydd Banc Data SAIL yn hwyluso piblinell newydd a diogel o ddata dienw er mwyn darparu gwybodaeth o ap newydd sy’n monitro symptomau COVID-19 i’r GIG gan gynorthwyo’r ymateb i’r pandemig.
Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe, Coleg y Brenin Llundain, y cwmni technoleg iechyd ZOE, BREATH – yr Hyb Data Ymchwil Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol, a chaiff ei gefnogi gan Ymchwil Data Iechyd y DU.
Mae’r ap monitro COVID-19, a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yng Ngholeg y Brenin Llundain a ZOE, eisoes wedi cael ei lawrlwytho gan bron 2 filiwn o ‘wyddonwyr gartref’ ledled y DU sy’n ei ddefnyddio bob dydd i fonitro eu hiechyd a symptomau posib y coronafeirws. Defnyddir yr ap yn helaeth gan weithwyr gofal iechyd ac ysbytai hefyd.
Mae’r ap yn gweithio fel system radar rhybudd cynnar, gan ddarparu gwybodaeth hollbwysig am symptomau a lledaeniad COVID-19. Yn ei dro, mae hyn yn helpu’r GIG i ddefnyddio adnoddau cyfyngedig yn effeithiol, er enghraifft gweithwyr gofal iechyd, offer profi neu beiriannau anadlu, lle mae’r angen yn debygol o fod ar ei uchaf.
Bydd data dienw sy’n cael ei lawrlwytho o’r ap yn rheolaidd yn cael ei drosglwyddo’n ddiogel drwy BREATHE – yr Hyb Data Ymchwil Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol i Fanc Data SAIL lle bydd ar gael i lunwyr penderfyniad y GIG ac ymchwilwyr academaidd. Mae hyn yn golygu hefyd y gellir cysylltu data o’r ap â setiau data eraill am COVID-19 sy’n cael eu creu gan uned trawsnewid digidol y GIG, NHSX, ac eraill.
Mae’r tîm ymchwil yng Ngholeg y Brenin Llundain yn dadansoddi’r data drwy’r amser er mwyn cynyddu dealltwriaeth am y clefyd a’i ledaeniad. Er enghraifft, maent wedi darganfod bod colli synnwyr arogleuo neu flasu yn fwy tebygol na thwymyn o fod yn symptom cynnar COVID-19. Mae diweddariadau gwyddonol rheolaidd a mapiau sy’n dangos dosbarthiad daearyddol lefel uchaf symptomau ledled y DU ar gael yn covid.joinzoe.com.
Meddai’r prif ymchwilydd, yr Athro Tim Spector o Goleg y Brenin Llundain,
Mae data cyfredol cywir yn hanfodol i drechu’r clefyd hwn. Hoffem ddiolch i bob unigolyn sydd eisoes yn cyfranogi a byddem yn annog pawb i lawrlwytho’r ap a’i ddefnyddio bob dydd os oes gennych symptomau neu hyd yn oed os ydych yn teimlo’n holliach.
Meddai’r Athro David Ford o Fanc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe,
Mae Banc Data SAIL wedi bod yn darparu mynediad diogel a chyfrifol at ddata i ymchwilwyr y GIG, llywodraeth a phrifysgolion am dros ddegawd. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hwn sydd wedi casglu data hynod bwysig i’n helpu i ddeall yr amrywiaeth ddryslyd o symptomau sy’n gysylltiedig â’r feirws ofnadwy hwn. Drwy hyn a llawer o fentrau tebyg, mae SAIL yn gwneud popeth y gall i sicrhau bod data’n gweithio’n galed i fynd i’r afael â heriau Covid-19.
Gellir lawrlwytho’r ap o’r Apple App Store a Google Play drwy’r dolenni yn covid.joinzoe.com. Mae mapiau symptomau dyddiol a chynnwys eraill ar gael yn //://covid.joinzoe.com