

Lluniwyd yr erthygl hon gan Dr Lucy Griffiths a’r Athro Gareth Stratton o Brifysgol Abertawe o dan Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd Ymchwil y Senedd. Mae’r erthygl yn ystyried ymhellach waith ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ‘Weithgarwch Corfforol ymhlith Plant a Phobl Ifanc’.
Mae gweithgarwch corfforol annigonol yn ffactor risg allweddol ar gyfer clefydau anhrosglwyddadwy fel clefydau cardiofasgwlaidd, canser, clefydau anadlol cronig a diabetes. O ran plant a phobl ifanc, gall gweithgarwch annigonol hefyd arwain at ganlyniadau niweidiol sy’n gysylltiedig â datblygiad, hunan-barch, cymhelliant, hyder, cyrhaeddiad academaidd a lles yn gyffredinol. Byddai codi lefelau gweithgarwch corfforol yn y boblogaeth felly o gymorth i gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Pwysau Iach: Cymru Iach.
I’r perwyl hwn, cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol ei adroddiad ar ei ymchwiliad diweddar i ‘Weithgarwch Corfforol ymhlith Plant a Phobl Ifanc‘. Roedd yr adroddiad hwn yn manylu ar y sefyllfa bresennol ac yn gwneud 20 o argymhellion ar gyfer lleihau anweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc ledled Cymru. Un o’r argymhellion hyn oedd bod “fframwaith mesur cenedlaethol y cytunwyd arno ar gyfer lefelau gweithgarwch corfforol a ffitrwydd fel mater o flaenoriaeth, i safoni a gwella’r broses casglu data” (Argymhelliad 1). Yn yr erthygl hon, rydym yn trafod ymhellach y cyfiawnhad dros yr argymhelliad hwn, a’i bwysigrwydd, ac argymhellion ar gyfer dull gweithredu o’r fath.