

Mae rhieni yng Nghymru sy’n troi at y llysoedd teulu er mwyn datrys anghydfodau preifat ynghylch trefniadau’r plant ar ôl iddynt wahanu yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd difreintiedig, dengys ymchwil newydd, gyda’r cyfraddau uchaf o geisiadau am orchmynion llys gan bobl sy’n byw yn Abertawe a de-orllewin Cymru.
Mae’r adroddiad Uncovering private family law: Who’s coming to court in Wales?, a gyhoeddwyd gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield, yn datgelu am y tro cyntaf bod llawer o rieni sy’n gwahanu y mae arnynt angen cymorth gan y system cyfiawnder teuluol yn debygol o fod yn fregus yn economaidd. Yn 2018, bu 29 y cant o dadau a 33 y cant o famau a fu’n cyflwyno cais cyfreithiol preifat yng Nghymru yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Pan na all rhieni sydd wedi gwahanu gytuno ar le dylai eu plentyn neu blant fyw, neu pwy dylent gael cysylltiad â nhw, gallant gyflwyno cais am orchymyn llys er mwyn datrys yr anghydfod drwy lys teulu. Mae degau o filoedd o blant yn rhan o’r anghydfodau hyn bob blwyddyn. Mae mwy na dwywaith nifer y ceisiadau preifat yn cael eu cychwyn yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn na cheisiadau cyfreithiol cyhoeddus – lle bydd awdurdod lleol yn ymyrryd er mwyn diogelu plentyn sydd mewn perygl o niwed – (54,930 o geisiadau preifat yn erbyn 18,393 o geisiadau cyhoeddus yn 2019), eto i gyd ychydig iawn rydym ni’n gwybod am y teuluoedd sy’n cyflwyno achosion preifat gerbron y llys.
Datgelodd yr astudiaeth newid yn y mathau o orchmynion y cyflwynwyd ceisiadau amdanynt, sy’n dangos twf o ran achosion mwy anodd neu ddadleuol. Ceisiadau am orchymyn trefnu plentyn (CAO) – sy’n ymwneud â lle mae plant yn byw a phwy maent yn cael cysylltiad â nhw, y cyfeirir atynt yn gyffredin fel gwarchodaeth a mynediad – yw’r rhai mwyaf cyffredin o lawer. Fodd bynnag, gwnaeth ceisiadau ar gyfer gorfodi (er mwyn gorfodi CAO), camau gwaharddedig (er mwyn gwahardd gweithred benodol, megis mynd â phlentyn dramor heb ganiatâd) a gorchmynion ynghylch materion penodol (er mwyn pennu materion megis pa ysgol y dylai plentyn ei mynychu, magu’n grefyddol, neu faterion iechyd) gynyddu o 15 y cant o’r holl geisiadau gan rieni yn 2011 i 30 y cant yn 2018.
Gan gynnwys ceisiadau a gyflwynwyd gerbron y llysoedd teulu rhwng 2007 a 2018, defnyddiodd yr astudiaeth ddata ar lefel y boblogaeth mewn cyfraith deuluol breifat wedi’i gysylltu â data demograffig er mwyn darparu’r proffil demograffig a chymdeithasol-economaidd cyntaf o’r teuluoedd a oedd yn rhan o achosion preifat yng Nghymru. Y cyntaf mewn cyfres o adroddiadau ynghylch teuluoedd mewn trafodion cyfreithiol preifat, fe’i comisiynwyd gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield ac fe’i cynhaliwyd gan y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol – cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Abertawe – ar y cyd â Phrifysgol Caerwysg.
Meddai Lisa Harker, Cyfarwyddwr Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield:
“Mae cyfran sylweddol o blant y mae eu dyfodol yn cael ei bennu gan y llysoedd teulu yn destun anghydfodau rhwng rhieni ar ôl iddynt wahanu – eto i gyd, rydym ni’n gwybod hyd yn oed yn llai am y plant a’r teuluoedd sy’n rhan o’r achosion hyn nag yr ydym ni’n gwybod am y rhai sy’n rhan o drafodion cyfreithiol cyhoeddus.
“Mae’r penderfyniadau a wnaed yn y system cyfiawnder teuluol yn gallu effeithio ar blant am weddill eu hoes. Mae angen brys inni ddarganfod mwy am natur fregus ac amgylchiadau teuluoedd sy’n rhan o drafodion cyfreithiol preifat, er mwyn inni allu sicrhau y caiff eu hanghydfodau eu datrys yn gyflym ac yn deg, neu er mwyn ein galluogi i archwilio ffyrdd o leihau’r tebygrwydd o ddechrau neu waethygu anghydfodau yn y lle cyntaf.”
Meddai Dr Linda Cusworth, Prifysgol Caerhirfryn, prif awdur yr adroddiad:
“Mae’r astudiaeth hon yn creu darlun o angen yng Nghymru, yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac mae’n dangos bod natur fregus economaidd rhieni sy’n rhan o drafodion cyfreithiol preifat wedi cael ei hesgeuluso ynghynt. Mae effaith amddifadedd wedi’i chydnabod yn helaeth mewn achosion cyfreithiol cyhoeddus sy’n cynnwys plant – ond mae lefel y ddealltwriaeth mewn trafodion cyfreithiol preifat yn dra wahanol, gydag ychydig iawn o ffocws ar statws economaidd-gymdeithasol fel ffactor perthnasol a sbardun posibl.
“Felly mae’n hanfodol bod llunwyr polisi’n dechrau ystyried rôl amddifadedd – a’i ryngweithiad â ffactorau eraill, megis gwrthdaro, cam-drin domestig a diogelu plant – fel ffactor mewn achosion cyfreithiol preifat, a sut y gellir mynd i’r afael â hynny. Hefyd, mae’n bwysig archwilio ymhellach effaith y diwygiadau i gymorth cyfreithiol yn 2013.”
Meddai’r Athro David Ford, Athro mewn Gwybodeg a Chyd-gyfarwyddwr y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol:
“Mae’r adroddiad hwn yn darparu cipolwg ar nodweddion ac amgylchiadau teuluoedd mewn trafodion cyfreithiol preifat ac mae’n enghraifft wych o sut gellir defnyddio data gweinyddol gan asiantaeth gyhoeddus a ddefnyddir go brin, er mwyn taflu goleuni ar feysydd pwysig o wasanaeth cyhoeddus. Mae Banc Data SAIL, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerhirfryn ac sydd wedi’i gefnogi gan Sefydliad Nuffield, yn ymrwymedig i ddefnyddio data yn ddiogel er mwyn galluogi ymchwil nad yw wedi bod yn bosibl erioed o’r blaen. Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn ac adroddiadau eraill a fydd yn dilyn, yn cyfrannu’n sylweddol at bolisi ac ymarfer yn y dyfodol.”
Meddai Nigel Brown, Prif Weithredwr Cafcass Cymru;
“Rydym ni’n croesawu’r adroddiad hwn, sy’n darparu cipolwg gwerthfawr ar amgylchiadau a phrofiadau plant a’u teuluoedd sydd wedi gwahanu, sy’n troi at y llys teulu yng Nghymru. Dyma blant sy’n hynod fregus ac mae’n hanfodol bod teuluoedd sy’n gwahanu yn gallu cael mynediad at gymorth yn gynnar er mwyn eu galluogi i wneud trefniadau gofal priodol ar gyfer eu plant. Rydym ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield a dysgu gan gyhoeddi rhagor o adroddiadau a fydd yn ein helpu i ddeall yn well yr hyn fydd yn gwneud gwahaniaeth wrth wella canlyniadau i blant a theuluoedd.”
Hefyd, dangosodd yr astudiaeth y bu cynnydd cymedrol o ran ceisiadau cyfreithiol preifat i’r llysoedd teulu yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf – sy’n dangos angen parhaus am gefnogaeth a chymorth. Yn 2007, bu 2,440 o geisiadau cyfreithiol preifat, gan godi i 3,800 yn 2013. Ar ôl cael gwared â’r hawl i gymorth cyfreithiol yn 2013 (ac eithrio ar gyfer achosion penodol sy’n cynnwys cam-drin domestig), bu gostyngiad sylweddol o ran ceisiadau, ond ar hyn o bryd mae’r nifer bron wedi cyrraedd ei lefelau blaenorol, gyda 3,390 o geisiadau’n cael eu cyflwyno yn 2018. Fodd bynnag, o 2013 ymlaen, bu gostyngiad o ran ceisiadau gan dadau, pobl iau, a thadau sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig – sy’n gyson â ‘bwlch cyfiawnder’ yn ymddangos ar ôl cael gwared â chymorth cyfreithiol.
Crynodeb: Uncovering private family law: Who’s coming to court in Wales?
Adroddiad: Uncovering private family law: Who’s coming to court in Wales?