

Yr haf diwethaf, gwnaethom gyhoeddi rôl SeRP (Platfform eYmchwil Diogel) yn y gynghrair flaengar, Cynghrair Ymchwil Data COVID-19 Ryngwladol – ICODA – a ariennir gan y Cyflymydd Therapiwteg COVID-19 , menter ar raddfa fawr a lansiwyd gan Sefydliad Bill a Melinda Gates, Wellcome, Mastercard a chyda chymorth ychwanegol gan Sefydliad Minderoo a rhoddwyr eraill. Caiff ICODA ei gynnull gan Ymchwil Data Iechyd y DU.
Amlinellodd yr erthygl yr ymdrechion cydweithredol i ddatblygu ICODA Workbench; technoleg isadeiledd digidol a arweinir gan Aridhia Informatics ac sy’n defnyddio ‘Addasydd’ SeRP, sy’n caniatáu i wyddonwyr rhyngwladol ddarganfod, cyrchu a dadansoddi setiau data aml-ddimensiwn byd-eang. I gael y cefndir llawn, gellir gweld yr erthygl honno yma > //://serp.ac.uk/2020/06/30/serp-technology-to-play-key-role-in-an-international-collaboration-to-accelerate-covid-19-research/
Ers hynny, bu’n rhaid i ICODA ddatblygu’n gyflym i fodloni’r heriau aml-haenog a chynyddol sy’n gysylltiedig â COVID-19. Mae ICODA wedi sefydlu 12 ‘prosiect ysgogi’ sy’n darparu canolbwynt ymchwil penodol i’r problemau mwyaf brys y mae cymdeithasau’n eu hwynebu heddiw ac maent wedi’u dylunio i roi hwb i gyrhaeddiad ac effaith hirdymor ICODA fel platfform. Deilliodd 10 o’r prosiectau hyn o alwad ariannu Heriau Mawr – un o raglenni grantiau Sefydliad Gates a ddyluniwyd i gyflymu ymchwil iechyd byd-eang. Gobeithir y bydd y mentrau hyn yn helpu wrth fynd i’r afael â Covid-19 ar hyn o bryd ac y byddant hefyd yn gwella ein parodrwydd cyfunol am glefydau pandemig yn y dyfodol. Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn a’r bartneriaeth yma > //://icoda-research.org/grand-challenges-and-icoda-announce-covid-19-data-science-grant-program/
Un o brosiectau sbarduno cyntaf yr ICODA i’w gyhoeddi oedd yr Astudiaeth Canlyniadau Amenedigol yn ystod y Pandemig, neu Astudiaeth iPOP. Genedigaeth cyn amser yw un o’r prif achosion marwolaeth ymhlith babanod yn y byd ac ni wyddys yr hyn sydd wedi achosi’r farwolaeth yn y rhan helaeth o achosion. Cydnabu Astudiaeth iPOP fod cyfnodau cyfyngiadau symud COVID-19 wedi arwain at amrywiadau sylweddol mewn niferoedd genedigaethau cyn amser a marw-enedigaethau ar draws gwledydd gwahanol a’i nod yw canfod pam a sut y mae ffactorau sy’n gysylltiedig â chyfyngiadau symud yn effeithio ar iechyd amenedigol ledled y byd.
Roedd angen lle ar astudiaeth iPOP i dderbyn, coladu a chyfuno data lle gallai gwyddonwyr ac arbenigwyr yn y maes gydweithio i ddod o hyd i atebion i’r cwestiynau ymchwil hyn. Ac yntau wedi’i leoli ym Manc Data SAIL, mae prosiect SeRP bellach yn hwyluso’r broses o dderbyn a dadansoddi data i ddadansoddwyr consortiwm Astudiaeth iPOP sy’n gweithio ar y prosiect sbarduno hwn. Mae platfform Astudiaeth iPOP yn galluogi 26 o wledydd, i gyfrannu data amenedigol diogel, gan gynnwys 11 o wledydd incwm is ac incwm canolig.
Mae galluoedd dechrau-i-ddiwedd SeRP a’i ymagwedd at lywodraethu teilwredig yn darparu dulliau trosglwyddo a derbyn data diogel ar gyfer y rhwydwaith data aml-sefydliad cymhleth hwn, gan gynnig cyfleoedd dadansoddi i ymchwilwyr awdurdodedig weithio ar draws y setiau data mewn amgylchedd unigol, diogel ac integredig. Yn yr achos hwn, roedd platfform dadansoddi a llywodraethu cadarn ac aeddfed a ddiffiniwyd o flaen llaw SeRP ym Manc Data SAIL yn lle delfrydol i gadw’r data a’i gysylltu â’r ICODA Workbench i ganiatáu i ymholiadau ffederal lifo o’r Workbench i Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (TRE) ar wahân a adeiladwyd gan Aridhia Informatics, i SAIL. Mae hyn yn darparu canlyniadau dadansoddol cyflym ar gyfer sawl set ddata heb yr angen i drosglwyddo data o leoliad diogel SeRP.
Cynsail ymholiadau ffederal yn y dull hwn, wedi’u dilysu gan Astudiaeth iPOP, yw bod modd cadw data mewn lleoliad gwahanol i’r swyddogaeth ddadansoddol, ond eto ganiatáu gwyddoniaeth a dadansoddiadau o safon. Hefyd mae’r ymagwedd hon wedi caniatáu i apiau ac offer dadansoddi ar ochr y Workbench gael eu hintegreiddio’n rhwydd â’r prosiect ymchwil, heb yr angen i gael mynediad at sawl TRE, a chyda phartneriaeth SeRP/Aridhia yn gyrru’r gallu i gyfuno dadansoddiadau mewn tasgau unigol penodol er mwyn cael gafael ar ganlyniadau dadansoddol y mae eu hangen ar gyfer gwerthusiadau gwyddonol pellach.
Gobeithiwn y bydd data Astudiaeth iPOP yn hygyrch ar ffurf ffederal drwy ICODA Workbench yn amodol ar gais am fynediad at ddata a thrwy ymuno â chonsortiwm Astudiaeth iPOP fel ymchwilydd cymeradwy ac achrededig. Mae ICODA’n gweithio ar y cyd i wella effeithlonrwydd mynediad at ddata, drwy leihau cymhlethdod trefniadau rhannu data a chynyddu harmoneiddio data, wrth sicrhau hefyd y cedwir data’n ddiogel, gyda dulliau llywodraethu cadarn a dadansoddi awdurdodedig. Mae ICODA yn gweithredu’n unol â fframwaith data FAIR, gan helpu i sicrhau bod data yn ganfyddadwy, yn hygyrch, yn rhyng-ymarferol ac yn ailddefnyddadwy.
Meddai’r Athro David Ford sy’n Athro Gwybodeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Gyfarwyddwr SeRP,
“Ein nod yn SeRP o’r cychwyn cyntaf oedd datblygu technoleg sy’n ddigon hyblyg, addasadwy a phwerus i weithio gyda data amrywiol, darparwyr data rhyngwladol a’r gymuned wyddonol fyd-eang. Rydym wrth ein boddau bod SeRP, ac yn wir SAIL, wedi aeddfedu’n ddigonol i gynnig buddion go iawn i fenter prosiectau sbarduno ICODA a rhoi newidiadau cadarnhaol ar waith o ran canlyniadau iechyd ledled y byd.”
Caiff manylion mwy trylwyr am y dulliau a’r dechnoleg sy’n sail i’r prosiect eu cyhoeddi mewn papur ymchwil yn y misoedd sydd i ddod.