

Mae SeRP (Platfform eYmchwil Ddiogel) wedi ennill achrediad Hanfodion Seiber sy’n dangos ymhellach ymrwymiad SeRP a’i ddulliau diogelu cadarn i ddiogelu ei ddefnyddwyr, tenantiaid y platfform a darparwyr data rhag ymosodiadau seiber.
Mae ardystiad gan gynllun y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a gefnogir gan y Llywodraeth, yn diogelu yn erbyn ystod eang o ymosodiadau seiber ac mae’n dangos ymrwymiad SeRP i seiberddiogelwch.
Mae cyflawni safon Hanfodion Seiber hefyd yn ffordd effeithiol o atal troseddwyr seiber sy’n chwilio am wendidau, ‘y sefyllfa ddigidol gyfatebol i leidr yn ceisio agor eich drws blaen i weld a yw ar agor’.
`Mae hwn yn dawelwch meddwl pwysig i’n defnyddwyr a’n tenantiaid sy’n cynnal prosiectau ymchwil a ariennir yn ganolog, gan fod contractau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn aml yn gofyn am ardystiad Hanfodion Seiber ar gyfer eu hisadeiledd TG.
Meddai’r Athro David Ford, Athro Gwybodeg Iechyd a Chyfarwyddwr SeRP:
“Rydym yn falch iawn o allu rhoi hyder i’n partneriaid a’n cydweithredwyr fod rheolyddion technegol hynod ddiogel SeRP bellach wedi’u dilysu yn erbyn safonau uchel meini prawf Hanfodion Seiber. Mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i reolyddion data fod yr holl brosiectau a gynhelir yn SeRP yn bodloni’r mesurau diogelwch cadarn hyn ar gyfer caffael, storio a defnyddio data, wrth i ni dyfu a datblygu ein gwasanaethau data.”
Rhif ardystiad Hanfodion Seiber SeRP yw IASME-CE-020924.