

Mae pobl ifanc â hanes o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn fwy tebygol o farw na’r rhai sydd â phroblem iechyd meddwl yn unig neu sy’n camddefnyddio sylweddau yn unig.
Mae ymchwil newydd hefyd wedi datgelu bod gwrywod a’r rhai sy’n hanu o ardaloedd difreintiedig yn wynebu’r perygl mwyaf.
Gwnaeth astudiaeth gan y Llwyfan Data Iechyd Meddwl Arddegwyr ym Mhrifysgol Abertawe, dan arweiniad yr Athro Ann John, edrych ar gofnodion meddygon teulu a derbyniadau i ysbytai o 2008 i 2017 ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 25 oed.
Gwnaeth yr ymchwilwyr amcangyfrif bod oddeutu un o bob 500 o achosion newydd bob blwyddyn lle roedd problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn cyd-ddigwydd, a bod y cyfraddau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru oddeutu teirgwaith yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Canfu’r astudiaeth, sydd newydd gael ei chyhoeddi ar-lein yn y cyfnodolyn Clinical Epidemiology, fod data iechyd mwy na 70 y cant o bobl ifanc a oedd yn camddefnyddio cyffuriau hefyd yn cofnodi problem iechyd meddwl.
Canfu’r ymchwilwyr fod y gyfradd o bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn eu data derbyn i’r ysbyty wedi parhau i fod yn sefydlog. Fodd bynnag, yn ôl cofnodion meddygon teulu, roedd y gyfradd wedi gostwng yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru ac wedi cynyddu yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Efallai fod nifer y bobl ifanc â’r problemau hyn yn gostwng yn yr ardaloedd difreintiedig hynny; fel arall, efallai fod llai o bobl ifanc yn yr ardaloedd hyn yn defnyddio gwasanaethau neu fod yr wybodaeth hon yn cael ei nodi’n llai aml yn eu cofnodion meddygol.
Meddai’r dadansoddwr ymchwil Sarah Rees, y prif awdur: “Yn aml, nid yw’r wybodaeth am y defnydd o alcohol a chyffuriau yn cael ei chofnodi mewn cofnodion iechyd, yn enwedig cofnodion pobl ifanc, felly mae’n debygol bod gan lawer mwy o bobl ifanc yng Nghymru broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd na’r hyn a geir yn ein canlyniadau – dylid trin ein hamcangyfrifon fel lleiafswm.”
Ychwanegodd yr Athro John: “Mae pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd yn cael y canlyniadau iechyd a chymdeithasol gwaethaf. Mae ein hastudiaeth yn dangos yn glir eu bod yn agored i niwed.
“Gall y problemau hyn wneud bywyd beunyddiol yn heriol. Maent yn effeithio’n fawr ar lwybrau bywyd pobl ifanc ac yn amharu ar eu gallu i astudio a gweithio, i ryngweithio â’u teulu a’u ffrindiau, ac i gyflawni eu potensial.
“Ni ddylai ein canlyniadau fod yn annisgwyl. Er ei bod hi’n bwysig meithrin dealltwriaeth glir o raddau’r broblem, mae’n hanfodol cyflwyno gwasanaethau integredig ag adnoddau digonol sy’n benodol i arddegwyr er mwyn mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, yn ogystal ag ymyrryd yn gynnar a chanolbwyntio ar atal.”
Meddai Janet Keauffling, nyrs arbenigol ar gyfer oedolion digartref a diamddiffyn, sy’n gweithio yn Abertawe: “Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau ers blynyddoedd lawer ac rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon yr effeithiau negyddol pan fo problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn cyd-ddigwydd, a’r canlyniadau hirdymor i blant a phobl ifanc sy’n dioddef ohonynt.”
Darllenwch y papur Incidence, mortality and survival in young people with co-occurring mental disorders and substance use: a retrospective linked routine data study in Wales yn ei gyfanrwydd
Adolescent Mental Health Data Platform is one of the 11 Centres of Excellence based in Population Data Science at Swansea University Medical School.