

Mae astudiaeth gan Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu er bod COVID-19 yn gysylltiedig â risgiau uwch o gyflyrau wedi haint, megis blinder ac emboledd, roedd y baich gofal iechyd yn gyffredinol yn isel, a phrin iawn oedd y bobl a oedd yn profi canlyniadau andwyol yn dilyn COVID-19.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth gydweithredol hon yn BMC Medicine, ac roedd wedi’i harwain gan ymchwilwyr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth. Astudiwyd data 249,390 o unigolion gyda phrawf PCR positif.
Mae COVID hir yn bryder ac er y bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n profi COVID-19 yn adfer yn gyflym, mae lleiafrif anhysbys yn profi symptomau estynedig. Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio hyd a lled a natur y newidiadau sy’n gysylltiedig â haint COVID-19 o ran y defnydd o ofal iechyd.
Bu’r tîm ymchwil yn arsylwi ar gyswllt gofal iechyd yn ystod 1 i 4 wythnos a 5 i 24 wythnos yn dilyn prawf positif o’u cymharu â’r rhai hynny a brofodd yn negatif am y firws.
Ystyriodd y tîm y canlyniadau sylfaenol, gan gynnwys salwch ar ôl firws a blinder fel arwydd o COVID hir. Mae’r tîm hefyd wedi archwilio canlyniadau eilaidd, gan gynnwys cysyniadau terminoleg glinigol ar gyfer emboledd, cyflyrau anadlu, cyflyrau iechyd meddwl, llythyron salwch neu fynd i’r ysbyty.
Prif ganfyddiadau’r astudiaeth
- Roedd blinder ac emboledd yn fwy tebygol o ddigwydd yn yr holl unigolion sy’n profi’n bositif yn ystod y pedair wythnos gyntaf, ond roedd gorbryder ac iselder yn fwy tebygol.
- Roedd unigolion COVID positif yn parhau i fod yn destun risg uwch o flinder ac emboledd wedi pedair wythnos.
- Mae’r holl unigolion sy’n profi’n bositif mewn mwy o berygl o salwch ar ôl firws wedi pedair wythnos. Fodd bynnag, lleiafrif bychan yn unig o boblogaeth yr astudiaeth a oedd yn destun effeithiau salwch ar ôl firws.
- Roedd y bobl hynny nad oeddent erioed wedi cael eu profi’n sylweddol llai tebygol o brofi’r holl ganlyniadau a ystyriwyd yn yr astudiaeth o’u cymharu â’r rhai hynny a oedd wedi profi’n negatif ar gyfer COVID-19.
Meddai awdur arweiniol yr astudiaeth, Dr Jon Kennedy: “Mae ein canfyddiadau ymchwil yn rhoi sicrwydd y ceir canlyniadau andwyol wedi COVID ond bod nifer gyffredinol y bobl sy’n ceisio gofal iechyd ar gyfer hyn yn isel.
Er hyn, mae’n rhaid nodi bod digwyddiadau andwyol megis emboledd yn ddifrifol ac felly dylai clinigwyr fod yn ymwybodol o’r cyfraddau uwch am gyfnod hwy yn achos y bobl hynny sydd wedi cael COVID. Mae hefyd yn bwysig bod gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn ystyried iechyd meddwl yn dilyn COVID oherwydd gallai hyn gael ei guddio neu ei ddiagnosio fel COVID hir ac efallai na fydd cleifion yn derbyn y gofal priodol.
Mae’r astudiaeth hon yn gam pwysig tuag at ddeall canlyniadau iechyd y firws a’r galwadau dilynol o ran gofal iechyd, a gall helpu i lywio penderfyniadau am ddarpariaeth gofal iechyd, llunio polisi a pharatoi ar gyfer pandemig yn y dyfodol.”