

Mae astudiaeth ddiweddar a arweiniwyd gan ymchwilwyr yn yr adran Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe wedi taflu goleuni ar wendidau o ran iechyd ymhlith babanod sy’n destun achosion cyfiawnder teuluol yng Nghymru.
Archwiliodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn International Journal of Population Data Science, ddefnydd o wasanaethau gofal iechyd gan fabanod dan flwydd oed a oedd yn destun achos Gofal a Goruchwyliaeth o dan Adran 31 – sef proses gyfreithiol a sbardunir pan fydd plentyn mewn perygl o gael ei niweidio gan rieni neu ofalwyr.
Cysylltodd ymchwilwyr â data dienw a gedwir ym Manc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Oherwydd argaeledd data iechyd electronig unigol ar gyfer poblogaeth plant Cymru, ynghyd â gwybodaeth gyfoethog sy’n cynnwys data ynghylch achosion cyfiawnder teuluol, roedd y tîm ymchwil yn gallu archwilio iechyd babanod a oedd yn destun achosion gofal, o’u cymharu â grŵp o fabanod o’r boblogaeth gyffredinol nad oedd yn destun achosion gofal.
Gwnaeth y tîm ddarganfod bod babanod yn y grŵp achosion gofal wedi profi nifer sylweddol fwy o achosion gofal iechyd ar draws yr holl leoliadau, gan gynnwys ymweliadau â meddygon teulu, ymweliadau ag adrannau brys a chyfnodau yn yr ysbyty. Roedd y gwahaniaeth hwn yn fwyaf amlwg wrth ystyried derbyniadau i adrannau brys ysbytai, lle roedd babanod a oedd yn destun achosion gofal bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty o’u cymharu â babanod o’r boblogaeth gyffredinol. Digwyddiadau anafu a gwenwyno oedd y rhesymau mwyaf cyffredin dros dderbyn baban i’r ysbyty.
Yr astudiaeth gydweithredol hon, a ariannwyd gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield, yw’r astudiaeth gyntaf ar raddfa’r boblogaeth yng Nghymru i archwilio’r defnydd o wasanaethau gofal iechyd gan y grŵp hwn o blant ifanc sy’n agored i niwed.
Meddai Dr Ian Farr, Uwch-swyddog Ymchwil Adran Gwyddor Data Poblogaethau Prifysgol Abertawe, “Pan fydd plant yn mynd i’r system gofal, maen nhw’n aml yn profi canlyniadau iechyd gwaeth o’u cymharu â’u cymheiriaid. Nod ein hastudiaeth oedd deall a oedd y gwahaniaethau iechyd hyn yn bresennol cyn i’r plant fynd i’r system gofal hyd yn oed, oherwydd yr amgylchiadau a arweiniodd at yr achosion gofal yn y lle cyntaf.
Mae ein canfyddiadau’n amlygu’r ffaith bod babanod sy’n destun achosion cyfiawnder teuluol yn fwy agored i niwed. Mae’n hollbwysig deall eu hanghenion gofal iechyd er mwyn i ni ddatblygu gwasanaethau cymorth gwell ar gyfer y teuluoedd hyn.”
Ychwanegodd Lucy Griffiths, yr Athro Epidemioleg Bediatrig yn Adran Gwyddor Data Poblogaethau Prifysgol Abertawe, “Unwaith eto, mae’r astudiaeth hon yn dangos pŵer y weithred o gysylltu data i lywio ein dealltwriaeth o nodweddion ac amgylchiadau plant ifanc iawn sy’n dod i’r system gofal. Mae’r wybodaeth hon yn hollbwysig ar gyfer darparu cymorth gwell i deuluoedd.”
Gallwch ddarllen y cyhoeddiad llawn yma.
Mae awduron y cyhoeddiad hwn yn rhan o’r Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol (FJDP) – sef cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Abertawe. Cefnogwyd yr astudiaeth hon gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield, Cafcass Cymru, Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, a Llywodraeth Cymru.
