

Mae tîm o’r Adran Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn £828,353 gan Alwad Ymateb Cyflym i COVID19 Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) i helpu i ddeall a mynd i’r afael â heriau’r pandemig.
Bydd y prosiect, Rheoli COVID-19 drwy well wyliadwriaeth o’r boblogaeth ac ymyrraeth (ConCOV) yn weithredol am 12 mis ac yn sbarduno ymchwil i lywio strategaethau ar sail tystiolaeth i reoli’r feirws, diogelu’r boblogaeth gyffredinol a helpu i ryddhau’r DU o’r cyfyngiadau symud.
Tîm amlddisgyblaethol
Mae Con COV yn dîm ymchwil arbenigol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o: Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, academyddion a’r cyhoedd sydd wedi dod ynghyd i ddatblygu’r prosiect hwn a fydd yn dadansoddi data o sectorau amrywiol yn gyflym, gan gynnwys data o’r GIG, gofal cymdeithasol ac addysg.
Bydd prosiect Con COV yn cyfuno ffynonellau data amrywiol a gedwir yn y Banc Data Diogel o Wybodaeth Gysylltiedig Ddienw (SAIL) i greu dadansoddiadau amserol ac ymatebol er mwyn:
- sicrhau bod llunwyr polisi a darparwyr gofal iechyd yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediad manwl i deithi’r pandemig;
- sicrhau bod ymyriadau a ddefnyddir i ymladd a rheoli’r feirws yn cael eu gwerthuso am eu heffeithiolrwydd; a
- rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd.
Adeiladu ar ddata sydd eisoes yn bodoli
Bydd Con COV yn adeiladu ar ddata dienw sydd eisoes yn bodoli am dros 3.2 miliwn o drigolion Cymru, a gedwir yn ddiogel yn SAIL, i greu astudiaeth boblogaeth fanwl mewn perthynas â COVID-19, a fydd yn cynnwys data ychwanegol am grwpiau a lleoliadau sy’n agored i niwed, seroleg (profion gwaed sy’n chwilio am wrthgyrff yn y gwaed) a genomeg firaol.
Llywio strategaethau ar sail tystiolaeth
Bydd y prosiect yn darparu adroddiadau rheolaidd i Grŵp Cynghori Technegol (TAG) ar COVID-19 Llywodraeth Cymru a Phwyllgor SAGE Llywodraeth Prydain ac yn cyhoeddi papurau gwyddonol; bydd hyn yn helpu i lywio strategaethau ar sail tystiolaeth er mwyn rheoli’r feirws, diogelu’r boblogaeth gyffredinol a llywio penderfyniadau ynghylch rhyddhau’r DU o’r cyfyngiadau symud.
Mae cynnwys y cyhoedd yn elfen allweddol o’r gwaith
Mae cyfathrebu â’r cyhoedd a grwpiau penodol yn elfen bwysig o’r prosiect a rhestrir aelodau’r cyhoedd fel ymchwilwyr.
Meddai Lynsey Cross, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chleifion yn HDRUK, Prifysgol Abertawe, ac un o ymchwilwyr Con COV:
“Un o brif gryfderau’r prosiect yw ein gweithgarwch ymgysylltu â’r cyhoedd a chynnwys y cyhoedd. Bydd tîm Con COV yn cynnwys pum aelod o’r cyhoedd a gaiff eu recriwtio i sicrhau bod yr holl weithgareddau ac adroddiadau’n dderbyniol, yn diwallu anghenion y boblogaeth gyffredinol ac yn cyfrannu at ddealltwriaeth gyhoeddus o wyddoniaeth”.
Meddai’r Athro Ronan Lyons, Prif Ymchwilydd ar gyfer Prosiect Con COV, sy’n gweithio yn yr Adran Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe:
“Mae COVID-19 yn fater cymhleth sy’n newid yn gyflym ac sy’n gofyn am ddata amser real bron, dadansoddiadau a gwyddoniaeth gan dîm amlddisgyblaethol er mwyn dyfeisio, gweithredu a gwerthuso amrywiaeth eang o ymyriadau i leihau niwed i’r boblogaeth.
Bydd ein prosiect ni yn helpu i ymateb i’r her hon a’r cwestiynau sy’n gysylltiedig â throsglwyddo’r clefyd, rhagfynegi a modelu, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau a nodir gan Lywodraeth Cymru a SAGE.”
Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd, yw’r arweinydd proffesiynol ar gyfer gwyddonwyr gofal iechyd yn y GIG yng Nghymru ac ef yw Pennaeth yr Adran Gwyddor Iechyd a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd yn Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd:
“Mae SAIL wedi chwarae rôl ganolog yn yr ymateb cenedlaethol i COVID-19, gan ddarparu arbenigedd technegol a gallu i ddadansoddi data dienw cysylltiedig sy’n berthnasol i effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol yr epidemig ar bobl a gwasanaethau yng Nghymru. Mae hyn yn parhau i’n helpu i ddarparu atebion i gwestiynau allweddol sy’n llywio datblygiad polisïau. Mae SAIL yn enghraifft o rym defnyddio data dienw cysylltiedig i greu gwybodaeth newydd am gwestiynau nad oedd modd eu hateb o’r blaen, gan helpu i achub bywydau, lleihau niwed a diogelu’r GIG.”
Cefnogir yr alwad gan:
Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU (DHSC), y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).