

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod gwaith ei banc data o fri rhyngwladol, SAIL, yn yr Uned Gwyddor Data Poblogaethau wrth ddefnyddio data cyhoeddus i wella iechyd a lles poblogaethau.
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod gwaith ei banc data o fri rhyngwladol, SAIL, yn yr Uned Gwyddor Data Poblogaethau wrth ddefnyddio data cyhoeddus i wella iechyd a lles poblogaethau.
Cyflwynwyd y wobr i’r Fonesig Jean Thomas, Canghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor, a’r Athro Ronan Lyons gan y Frenhines a Duges Caerloyw mewn seremoni a gynhaliwyd ym Mhalas Buckingham.
Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwyddonwyr data bellach yn gallu cynnal ymchwil gadarn drwy ddefnyddio data cynhwysfawr SAIL am boblogaethau Cymru a’r DU. Mae SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) yn rhan o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Iechyd y Brifysgol a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae’n dod â data o sawl ffynhonnell ynghyd, cyn ei gysylltu a’i ddadansoddi, er mwyn cyflwyno dealltwriaeth o boblogaethau i lywodraethau a llunwyr polisi.
Dyfernir y gwobrau, a gyflwynwyd am y tro cyntaf ym 1994, bob dwy flynedd ac maent yn cydnabod gwaith rhagorol gan golegau a phrifysgolion yn y DU sy’n dangos rhagoriaeth ac arloesedd ac sy’n darparu budd go iawn i’r byd ehangach.
Daw’r llwyddiant hwn ar ôl i’r wobr gael ei dyfarnu i brosiect SPECIFIC yn 2022 wrth i’r Brifysgol ymuno â grŵp bach iawn o sefydliadau sydd wedi ei hennill ddwywaith yn olynol.
Meddai’r Athro Paul Boyle: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Prifysgol Abertawe unwaith eto wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines: yr anrhydedd cenedlaethol mwyaf i addysg bellach ac addysg uwch yn y DU ac adlewyrchiad go iawn o ymchwil ragorol ein cydweithwyr yn SAIL.
“Mae ennill ail wobr – mewn rowndiau cyflwyno olynol – yn gyflawniad prin ac anhygoel, sy’n amlygu budd sylweddol ein hymchwil a’n gweithgarwch arloesi o’r radd flaenaf i’r cyhoedd.”
Yn ystod y 15 mlynedd ers iddo gael ei sefydlu, mae cyflawniadau SAIL yn cynnwys:
- Cyflawni ymchwil eang iawn i Covid-19 ac ymateb yn gyflym i gyflwyno gwybodaeth a oedd yn seiliedig ar ddata i lywodraethau Cymru a’r DU;
- Gweithredu fel y system genedlaethol ar gyfer cysylltu data a mynediad at yr holl ddata cyhoeddus yng Nghymru, gan guradu data’n ddiogel o bob sector a mwy na 500 o sefydliadau;
- Darparu gwasanaethau cysylltu a chronni data ar gyfer llawer o fentrau byd-eang, gan gynnwys data a rennir o fwy na 30 o wledydd i gefnogi menter ICODA (International COVID-19 Data Alliance); ac
- Atgyfnerthu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer llunwyr polisi sy’n eu helpu i ddeall y perthnasoedd rhwng y gwasanaethau a ddarperir ganddynt er mwyn gwella bywydau pobl.

Dywedodd yr Athro Lyons, cyd-gyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaethau a Banc Data SAIL: “Roedd derbyn Gwobr Pen-blwydd y Frenhines ym Mhalas Buckingham yn anrhydedd aruthrol ac yn arddangos gwaith anhygoel holl dîm SAIL. Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod bythgofiadwy i ni i gyd. Mae SAIL yn cyfleu hanfod gwyddoniaeth ar y cyd, gan feithrin cydweithrediadau ymysg y byd academaidd, y GIG, cyrff sector cyhoeddus a’r gymuned ehangach i fynd i’r afael â phroblemau pwysig sy’n effeithio ar boblogaethau Cymru a’r byd.”
Disgrifiodd yr Athro David Ford, Cyd-gyfarwyddwr yr Uned Gwyddor Data Poblogaethau a Banc Data SAIL, yr anrhydedd fel testun balchder mawr a chadarnhad i’r Uned Gwyddor Data Poblogaethau a phawb sy’n gysylltiedig â Banc Data SAIL.
Meddai: “Mae llwybr SAIL o’r cychwyn cyntaf i fod ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â her ddigynsail COVID-19 yn anhygoel a dweud y lleiaf.
Rydyn ni’n hynod falch bod ymdrechion diflino’r tîm, ochr yn ochr â’n rhwydwaith helaeth o gydweithredwyr o’r GIG, y llywodraeth a’r byd academaidd, wedi cael eu cydnabod drwy’r wobr uchel ei bri hon. Mae’r wobr yn dystiolaeth i bŵer gwaith tîm ac ymdrechion ar y cyd, ac rydyn ni’n rhannu’r balchder a’r cadarnhad â phob aelod o’n tîm.”
Dywedodd yr Athro Simon Thompson, cyd-gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Technoleg Banc Data SAIL: Mae derbyn Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn dyst i’n tîm ymroddedig a gweledigaethol, y mae eu hymdrechion diflino wedi gyrru Banc Data SAIL i fod ar flaen y gad ym maes Gwyddor Data Poblogaethau.
Mae SAIL yn ymrwymedig i arwain y ffordd wrth ddatblygu modelau rhannu data a diogelu preifatrwydd mynediad arloesol. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dod ar gyfnod hollbwysig wrth i’r dirwedd gwyddor data esblygu o fewn y DU, i roi pwyslais ar bwysigrwydd cynyddol data wrth lunio strategaeth genedlaethol.”
Ewch i’n tudalen Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am ragor o wybodaeth am ein gwobr ac am restr lawn o gydnabyddiaeth o’n diolchiadau i’n cyllidwyr, partneriaid, sefydliadau cydweithiol, byrddau iechyd, meddygon teulu, defnyddwyr Banc Data SAIL, ein cyfranwyr cynnwys y cleifion a’r cyhoedd (PPI), ein Canolfannau Rhagoriaeth a’n staff ymroddedig a chwaraeodd rôl allweddol wrth dderbyn y wobr nodedig hon.


Yr Is-ganghellor yr Athro Paul Boyle yn siarad ag Ei Mawrhydi’r Frenhines Gydweddog a’r Athro Ronan Lyons yn siarad â Duges Caerloyw
