Mae ADR UK yn ariannu prosiect ymchwil ynghylch data arloesol i wella bywydau a chynhyrchiant ffermwyr ledled y DU
Mae ADR UK (Administrative Data Research UK) heddiw (6 Hydref 2020) wedi cyhoeddi grant o bron i £600,000 i harneisio potensial data gweinyddol er mwyn deall nodweddion aelwydydd fferm yn well â’r bwriad o wella polisïau’r dyfodol a gwella lles ffermwyr a’u teuluoedd.