

Wrth i’r achosion o Covid-19 gynyddu yn y DU, roedd mynediad i ddata amserol yn rhan sylfaenol o ddeall a mynd i’r afael â’r feirws ar gyfer y sawl sy’n gweithio ym maes polisi ac ymchwil, a dyna yw’r sefyllfa hyd heddiw.
Bu Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), sef y Gronfa Ddata o safon fyd-eang a reolir gan Grŵp Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe, yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth i nifer fawr o sectorau, yn ogystal â’r ffaith bod y Gronfa Ddata’n hysbysu ymateb cenedlaethol Cymru’n Un i Covid-19 yng Nghymru.
Bu cryn gynnydd yn y galw i ddefnyddio’r gronfa gan ymchwilwyr, gwyddonwyr data a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd sy’n awyddus i gael mynediad at y data gweinyddol dienw am iechyd yng Nghronfa Ddata SAIL er mwyn eu helpu i benderfynu beth yw effeithiau’r pandemig ar y boblogaeth.
Cynthia McNerney, Pennaeth Caffael a Darparu Data, sy’n arwain y tîm sy’n ymateb i’r ceisiadau hyn am ddata. Yn ogystal â hwyluso’r ceisiadau am ddata, mae aelodau’r tîm yn gweithio’n agos gyda thimau technegol a darparwyr data SAIL i gael data newydd a chyfredol tra eu bod yn goruchwylio’r prosesau llywodraethiant trylwyr sy’n ganolog i weithio gyda Chronfa Ddata SAIL.
Mae’r tîm hwn yn gweithio ar y cyd â Phanel Adolygu Llywodraethiant Gwybodaeth Cronfa Ddata SAIL (IGRP), sef panel annibynnol o arbenigwyr annibynnol yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd sy’n adolygu pob cais i gael mynediad at ddata SAIL. Mae’r panel hwn yn adolygu’r cynigion i ofalu eu bod yn cydymffurfio ag egwyddorion llywodraethiant gwybodaeth a’u bod yn defnyddio data er budd y cyhoedd mewn ffordd briodol.
Pan ddechreuodd achosion Covid-19 gyrraedd eu hanterth, gwelodd yr IGRP fod cynnydd sydyn a chyson yn y galw i gael mynediad at ddata ac, o ganlyniad i hyn, fod llai o lawer o amser i ymateb i’r ceisiadau.
Dyma a ddywedodd Dr Corinne Scott, Cadeirydd yr IGRP: “Dyma gyfnod prysuraf y panel erioed. Pan ddechreuodd y pandemig, y teimlad cryf oedd bod dybryd angen i ymchwil hysbysu’r dasg o ddeall a chynllunio ar gyfer Covid-19 ar lefel y boblogaeth.
“Er gwaethaf yr ymrwymiadau personol a’r baich gwaith a oedd yn gysylltiedig â mesurau’r cyfyngiadau symud, roedd ein tîm serch hynny yn gallu ymateb yn brydlon i’r ceisiadau a oedd yn llifo i mewn. Bu cynnydd yn y galw yn ogystal â chynnydd yn y galw i asesu’r ceisiadau’n gyflymach, ac rwy’n falch na pheryglwyd ar unrhyw adeg gywirdeb y ceisiadau, y gwaith craffu arnyn nhw a safon y gwaith a oedd yn cael ei gymeradwyo. Roedd yn her yr oeddem ni’n falch o allu ymateb iddi.”
Roedd yr ymchwil yr ymgymerwyd ag ef, yn ogystal â’r ffordd chwimwth yr oedd yn ymateb i’r argyfwng, yn golygu bod y ceisiadau i SAIL yn cael eu hadolygu o fewn 48 awr, proses y mae angen fel arfer nifer o wythnosau i’w chwblhau.
“Mae prosesau llywodraethiant cadarn yn greiddiol i bopeth a wnawn ni, ac mae rôl yr IGRP yn anhepgor yn hynny o beth. Hebddo, ni allai SAIL hwyluso mynediad at ddata ac ni allai’r ymchwil bwysig hon ddigwydd,” meddai Cynthia McNerney sy’n rheoli’r broses adolygu llywodraethiant.
“Er gwaethaf yr holl heriau rydyn ni wedi eu hwynebu a’r cynnydd yn y ceisiadau am ddata, y baich gwaith a’r angen i ymateb i’r cleient yn gyflym, mae cefnogaeth yr IGRP wedi’n galluogi i roi mynediad cyflym at ddata tra ein bod hefyd yn cydymffurfio â’r egwyddorion a’r prosesau sy’n sail i’w fodel gweithredu.”
Cyfrannodd Cynthia a’i thîm hefyd at y gwaith o osod ffynonellau data newydd ac allweddol yn rhan o SAIL – 19 o setiau data newydd hyd yn hyn – yn ogystal â gwella’r cysylltiad rhwng y setiau data sy’n bodoli eisoes. Mae hyn yn golygu bod ymchwilwyr yn gallu cyrchu data sy’n cael ei adnewyddu bob dydd neu bob wythnos yn hytrach na phob mis neu bob tri mis.
Cafodd Cronfa Ddata SAIL fwy nag 180 o ymholiadau, y rhan fwyaf ohonyn nhw gan ddefnyddwyr newydd, i weithio ar ymchwil sy’n gysylltiedig â Covid-19. Roedd nifer o’r ceisiadau hyn wedi hysbysu Grŵp Cynghori Technegol (TAG) Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) y DU er mwyn helpu’r gwaith o lywio’r mesurau ym maes iechyd y cyhoedd a gymerwyd yn ystod y cyfyngiadau symud.

“Gyda’r cynnydd yn y sawl sy’n defnyddio Cronfa Ddata SAIL am y tro cyntaf, yn ogystal â phwysigrwydd dysgu mwy am y ffordd y mae Covid-19 yn ymledu, rydyn ni wedi gweld bod ystod y meysydd lle defnyddir SAIL wedi ehangu. Mae mwy o ddadansoddiadau amrywiol nag erioed o’r blaen yn digwydd,” ychwanegodd Cynthia McNerney.
Yn sgîl y cyfyngiadau symud diweddaraf ledled Cymru, bydd Cronfa Ddata SAIL yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth helpu i hysbysu polisi. Yn ogystal â Chronfa Ddata SAIL, Ymchwil Data Iechyd (HDR) y DU, YDG Cymru, BREATHE, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yw aelodau tîm Cymru’n Un.
CATE BATCHELDER , SWANSEA UNIVERSITY