

Ers dyddiau cynharaf pandemig COVID-19 yn y DU, mae Cronfa Ddata SAIL wedi chwarae rôl flaenllaw yn ymateb strategol Cymru’n Un i’r bygythiad byd-eang digynsail hwn.
Mae ceisiadau am fynediad at Gronfa Ddata SAIL a’r gofynion am ffynonellau data ychwanegol i ddarparu’r manylion angenrheidiol i ddeall effaith COVID-19 ar boblogaeth Cymru wedi arwain at yr angen am swmp sylweddol o waith i alluogi hyn.
Gan fod nifer o ffynonellau data newydd a chyfoethog a ddarperir gan sefydliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n cydweithio fel rhan o ymateb Cymru’n Un i COVID-19, mae’r cyfleoedd a’r ddealltwriaeth angenrheidiol o’r ffynonellau hyn a llwyth gwaith ymchwilwyr yn grŵp Gwyddonwyr Data Prifysgol Abertawe wedi cynyddu’n drawiadol. Yma, rydym yn bwrw golwg ar rai o’r wynebau y tu ôl i’r wyddoniaeth.
Mae Ashley Akbari wedi gweithio fel Rheolwr Ymchwil Uwch a Gwyddonydd Data ers tair blynedd a chyda Chronfa Ddata SAIL ers dros ddeng mlynedd. Fel rhan o Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK), mae’n rheoli tîm o Ymchwilwyr a Gwyddonwyr Data sydd fel arfer yn gweithio ar brosiectau ymchwil sydd weithiau’n gallu cymryd blynyddoedd i’w cwblhau. Mae Ashley yn esbonio;
“Mae gennym ni staff i weithio ar ymchwil benodol a gynlluniwyd ar unrhyw adeg. Mae’r tîm yn defnyddio egwyddorion ac arferion rheoli prosiect, ac felly maent yn gyfarwydd â bod yn hyblyg wrth ymchwilio i geisiadau, ond mae bod mor ymarferol mewn ymateb i COVID-19 wedi arwain at gynnydd trawiadol yn ein gwaith a llai o amser ar gyfer ymateb i wybodaeth.
“Rydym wedi bod yn fethodolegol yn ein hymagwedd ac rydym wedi clustnodi rhai staff ar brosiectau ymchwil presennol â therfynau amser penodol i gwblhau eu gwaith, ond mae gweddill y tîm wedi canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymateb i’r heriau a wynebir yn sgîl COVID-19 a darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Ar y cyfan, rydym ni wedi osgoi cymryd gwyliau blynyddol ac mae llawer o bobl yn gweithio llawer mwy o oriau nag sy’n ofynnol yn ôl eu contractau o ganlyniad i’r pandemig, ond rydym yn hynod falch o fod yn rhan o hyn ac rydym wedi gwneud hyn yn wirfoddol gyda chefnogaeth ein system gefnogi gref i ddiogelu iechyd corfforol a meddwl ein timoedd.”
Mae’r tîm yn darparu gwybodaeth i TAG Llywodraeth Cymru (sef y Grŵp Ymgynghori Tactegol) ac yna’n bwydo i SAGE y DU (sef y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau), ac felly mae ymchwilwyr yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd eu gwaith ar hyn o bryd. Mae Fatemeh Torabi yn gweithio fel Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data. Meddai;
“Mae ymchwil i COVID-19 yn gofyn am waith chwim mewn cyfnod byr o amser – bydd allbynnau a geir heddiw yn cefnogi penderfyniadau a chynllunio strategol a wneir yfory. Rydym yn gweithio mewn ffordd synergyddol, gan gyfuno arbenigedd unigryw i ateb cwestiynau ar sail data sy’n effeithio ar les ein ffrindiau a’n teuluoedd ledled y DU a’r byd i gyd yn uniongyrchol.”
Mae gwaith cydweithredol a hirsefydlog SAIL gyda HDR UK ac Ymchwil Data Gweinyddol Cymru wedi hwyluso nifer fawr o adroddiadau deallusrwydd sy’n gysylltiedig â COVID-19 a’r ymchwil i’w chynnal. Gweledigaeth HDR UK yw cyfuno data iechyd y DU, sy’n aml yn dameidiog, gan ei wneud yn hygyrch at ddibenion ymchwil a fydd yn arwain at ddarganfyddiadau sy’n gwella bywydau pobl. Mae’r rhwydweithiau ymchwil data iechyd hyn, a grëwyd ac a ddatblygwyd gan HDR UK, wedi bod yn hanfodol, i hwyluso cronfeydd data pob cenedl yn y DU i ddarparu mynediad at ddata ar gyfer nifer fawr iawn o astudiaethau ymchwil i COVID-19.
I weld y rhestr o ffynonellau data sydd ar gael ar hyn o bryd a’u diweddebau, ynghyd ag adroddiadau diweddaraf SAGE, gweler gwefan HDR UK sy’n cael ei diweddaru’n wythnosol: www.hdruk.ac.uk/
BY ASHLEY AKBARI, SWANSEA UNIVERSITY