

Flwyddyn ar ôl dyfodiad COVID-19 yn y DU, ac mae creu gwaith dadansoddi ar sail data i ddylanwadu ar y llywodraeth a gwaith cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus, yn parhau’n gyflym.
Yng Nghymru, gwnaeth creu ymagwedd Cymru’n Un yn gyflym atgyfnerthu arbenigedd a dod â sefydliadau at ei gilydd wrth wraidd y gwaith penderfynu. Gyda mynediad at ddata eisoes wedi’i gymeradwyo ym Manc Data SAIL, ynghyd â mynediad at ddata amserol newydd, roedd yn bosibl creu dadansoddiad hanfodol ar unwaith i roi sail i waith cynllunio yn genedlaethol drwy gydol y pandemig.
Hyd yn hyn, mae tîm Cymru’n Un wedi ystyried cyffredinolrwydd, ymlediad ac effaith y feirws ac yn ddiweddaraf dderbyniad brechlynnau COVID – ac mae’r canlyniadau wedi dylanwadu ar farn y llywodraeth yng Nghymru ac ar lefel y DU.
Mae presenoldeb carfan newydd ledled y boblogaeth wedi bod wrth wraidd gwaith dadansoddi Cymru’n Un, ac mae’r garfan honno wedi bod yn sail i ateb llawer o’r cwestiynau. Mae Jane Lyons yn Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yn y tîm Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n arwain gwaith e-Garfan Aml-forbidrwydd Cymru (WMC).
Cyn dyfodiad COVID-19, dyluniwyd yr WMC er mwyn helpu i ddadansoddi goblygiadau aml-forbidrwydd (presenoldeb dau gyflwr iechyd hirdymor neu fwy ar yr un pryd) drwy fesur ei gyffredinolrwydd, ei drywyddion a’i benderfynyddion, yn ogystal â helpu i nodi clystyrau o glefydau sy’n arwain at yr angen gofal iechyd mwyaf a marwolaeth.
Ar ôl dechrau’r pandemig, gwnaeth defnyddio dyluniad astudiaeth yr WMC alluogi tîm Cymru’n Un i greu cymhathu cyflym i helpu â’r ymateb ymchwil i COVID-19.
Beth mae e-Garfan Aml-forbidrwydd Cymru yn ei gynnwys?
Adnodd data yw’r WMC, sy’n galluogi ymchwilwyr i gynnal ymagweddau ystadegol a dysgu peirianyddol er mwyn ateb cwestiynau ymchwil. Mae’n gweithio gyda data dienw ac amgryptiedig gan SAIL ac yn dod â Set Ddata Gwasanaeth Demograffig Cymru (WDSD) a data cofrestru marwolaethau’r Crynodeb Blynyddol o Farwolaethau Ardal (ADDE) gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i greu carfan o boblogaeth Cymru gan gynnwys 2.9 miliwn o unigolion, a’i dilyn o 1 Ionawr 2000 tan 31 Rhagfyr 2019.
Defnyddio’r WMC i helpu i ddadansoddi Cymru’n Un
Gan siarad am ddefnyddio’r WMC ac ymdrech Cymru’n Un, dywed Jane:
“Defnyddiwyd yr hyn a ddysgwyd gan yr WMC a dyluniadau astudiaethau er mwyn cymhathu’n gyflym adnoddau data sydd ar gael, er mwyn helpu â’r ymateb ymchwil i COVID-19 ar gyfer Cymru. Crëwyd dwy garfan o’r boblogaeth o’r enw C20 a C16 er mwyn darparu deallusrwydd amser real bron. Mae carfan C20 yn cynnwys pob unigolyn yng Nghymru ar 1 Ionawr 2020 gan ei ddilyn nes ei fod yn marw, yn peidio â phreswylio yng Nghymru am y tro cyntaf neu’n gorffen astudio (fe’i diweddarir yn fisol). Mae carfan C16 yn cynnwys pob unigolyn yng Nghymru ar 1 Ionawr 2016 gan ei ddilyn nes ei fod yn marw, yn peidio â phreswylio yng Nghymru am y tro cyntaf neu 31 Rhagfyr 2019. Dylunnir C16 i ddarparu data cymharol gwrthffeithiol a chyd-destunol ynghylch defnydd gwasanaethau iechyd gan y boblogaeth a chyfraddau marwolaethau. Defnyddir y carfannau C16 a C20 gan ein tîm i bennu’r ffactorau risg demograffig, cymdeithasol-economaidd a chlinigol ar gyfer heintio, afiachusrwydd a marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn ogystal â mesur effaith COVID-19 ar ddefnyddio gofal iechyd.
“Hyd yn hyn, mae’r dadansoddi wedi cynnwys y gwaith i ddeall llwybrau trosglwyddo COVID-19 mewn ysgolion, sut mae defnyddio gofal iechyd wedi newid ers y pandemig, gan nodi’r risg heintio i weithwyr gofal iechyd, derbyniad a diogelwch brechlynnau, a hefyd waith i amcangyfrif deilliannau marwolaethau i oedolion â COVID-19 yng Nghymru.
“Ni fyddai gwaith yr WMC na’r gwaith ar COVID-19 wedi bod yn bosibl heb ymagwedd gwyddoniaeth tîm deg ac ymdrech gydweithredol enfawr ar draws nifer o sefydliadau, sydd wedi ehangu rhwydweithiau a gwella perthnasoedd. Mae’r ymchwilwyr sy’n gweithio yn nhîm Cymru’n Un wedi gweithio ar y cyd i sicrhau y gall yr ymchwil fod yn bosibl ac y gellir cyflawni’r deilliannau.”
“Rydym yn ddiolchgar dros ben bod caniatâd gan warchodwyr data a phaneli llywodraethu gwybodaeth wedi galluogi inni gynnal yr ymchwil amser real bron i helpu i ddeall ymlediad yr haint ac effeithiolrwydd mesurau ymyrryd.”
Mae Cymru’n Un yn dod â chydweithwyr at ei gilydd o Abertawe a ledled Cymru dan gyfarwyddyd Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys y grwpiau a’r sefydliadau canlynol: y Banc Data Gwybodaeth Gysylltiedig Ddienw (SAIL); Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR); Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS); Iechyd Cyhoeddus Cymru; Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Mae’r holl ymchwil a gynhaliwyd wedi cael ei chwblhau â chaniatâd a chymeradwyaeth Panel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth (IGRP) annibynnol SAIL, rhif prosiect 0911. Mae undod yr arbenigedd ledled Cymru wedi arwain at ymagwedd ystwyth ac ymatebol i fynd i’r afael â gwaith dadansoddi data a chreu deallusrwydd ar sail y blaenoriaethau parhaol a’r blaenoriaethau datblygol ar gyfer mynd i’r afael â COVID-19 yng Nghymru.
