

Mae eisiau mwy a mwy o sgiliau ymchwil i ddadansoddi setiau data mawr. Cafwyd darganfyddiadau cyffrous gan ddefnyddio data gofal iechyd electronig ond gall gweithio gyda data mawr fod yn heriol. I wneud y mwyaf o ddata, mae angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio’r offer a’r technegau diweddaraf a gorau wrth ddadansoddi a thrin data.
Mae gan dîm Cofrestr MS y DU ym Mhrifysgol Abertawe gynnig unigryw – y cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio’r offer hyn a’u profi nhw ar ddata’r byd go iawn o Gofrestr MS y DU. Mae Datathon cyntaf erioed Cofrestr MS y DU wedi’i drefnu ar gyfer 5 a 6 Gorffennaf 2022, cyn cynhadledd MS Frontiers y Gymdeithas MS a gynhelir ar Gampws hyfryd y Bae, Prifysgol Abertawe.
Gall ymchwilwyr, y rhai sy’n gweithio yn y byd academaidd, y GIG neu elusennau ymchwil feddygol a’r rhai sy’n dymuno dysgu am yr offer a’r technegau i ddadansoddi data gofal iechyd mawr gymryd rhan yn y datathon hwn.
Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sy’n gweithio ym maes MS ac i ymchwilwyr gyrfa gynnar (myfyrwyr PhD, cymrodorion gyrfa gynnar ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol, gan gynnwys y rhai rolau clinigol cyfwerth).
Yn gyntaf bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu sgiliau sylfaenol llwytho, glanhau a thasgau trin a thrafod data syml mewn grwpiau cydweithredol bach gyda chymorth ac arweiniad gan dîm Cofrestr MS y DU. Wedi hynny byddant yn symud ymlaen i dechnegau mwy datblygedig ar gyfer cysylltu setiau data a dysgu dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau disgrifiadol.
Yn olaf, bydd y rhai sy’n bresennol yn defnyddio’r sgiliau hyn a’r wybodaeth hon i gymryd rhan mewn datathon ar ail ddiwrnod y digwyddiad, gan ddefnyddio set data fawr ac amrywiol sef Cofrestr MS y DU.
Meddai Rod Middleton, Prif Ymchwilydd Cofrestr MS
“Rydym wrth ein boddau’n gallu cynnal digwyddiad a fydd yn galluogi ymchwilwyr gyrfa gynnar i archwilio data Cofrestr MS y DU a chael cyfle i gydweithio ag ymchwilwyr data ac MS eraill. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael y cyfle hefyd i gyflwyno eu canfyddiadau yng nghynhadledd MS Frontiers a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe ddiwrnodau ar ôl y cwrs”.
I’r rhai sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais, gweler gwefan Cofrestr MS y DU //://ukmsregister.org/Datathon
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 11 Ebrill 2022
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad ar CROWD, y platfform ar-lein newydd sy’n benodol ar gyfer y gymuned Gwyddor Data Poblogaethau fyd-eang. Ymunwch â’r digwyddiad yma: //://bit.ly/379KaxuJW
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch contact@ukmsregister.org