

Felly dyma ni, yn dilyn misoedd o drafodaeth, mae diwrnod lansio ap olrhain cysylltiadau Cymru a Lloegr wedi cyrraedd. Y cwestiwn sy’n parhau yw a fydd yn gwneud gwahaniaeth? Ar wahân i ystyriaethau eraill, er mwyn iddo weithio’n effeithiol, mae angen i ganran uchel o bobl ei ddefnyddio.
Cynhaliodd yr Athrawon Kerina Jones a Rachel Thompson ddau arolwg gyda dinasyddion Cymru: un hwy gyda chyfranogwyr Doeth am Iechyd Cymru (HWW) (Nifer=976, y rhan fwyaf ohonynt dros 45 oed), ac un byrrach gyda theithwyr bws yn ardal Casnewydd (N=950, y rhan fwyaf ohonynt dros 45 oed).
Dywedodd 56% o ymatebwyr Doeth am Iechyd Cymru a 33% o’r teithwyr bws eu bod yn bwriadu defnyddio ap. Ymhlith y rhai hynny nad oeddent yn fodlon defnyddio ap, y pedwar rheswm mwyaf cyffredin oedd diffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth, pryderon am ddiogelwch data a phreifatrwydd ac amheuon am effeithiolrwydd. Pan ofynnwyd iddynt beth fyddai’n newid eu meddyliau, ‘dim byd’ oedd yr ymateb mwyaf cyffredin o bell ffordd.
Dyma’r unig ddarn o waith hysbys sy’n cynnwys pobl yng Nghymru am y defnydd o ap olrhain cysylltiadau ac mae canlyniadau mwy cyflawn wedi cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru at ddibenion ymgysylltiad cyhoeddus pellach.
Fel sy’n wir am unrhyw arolwg cyn digwyddiad, rhaid aros i weld pa ganran o bobl fydd yn defnyddio’r ap mewn gwirionedd a’r hyn a allai ddigwydd i ddylanwadu ar eu penderfyniadau o’i blaid neu yn ei erbyn.
Meddai Kerina Jones, Athro Gwyddor Data Poblogaethau a Chyfarwyddwyr Cysylltiol Llywodraethu ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe:
‘Gan mai hwn yw’r unig waith hysbys sy’n cynnwys pobl yng Nghymru am ap olrhain cysylltiadau, rwyf yn credu bod y canfyddiadau’n enwedig o bwysig. Anfonwyd canlyniadau mwy cyflawn at Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd ag argymhelliad ar gyfer ymgysylltiad pellach â’r cyhoedd er mwyn sicrhau y caiff lleisiau dinasyddion Cymru eu clywed. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib i’r ap fod yn llwyddiant.’