

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw am famau a thadau yng Nghymru yn y blynyddoedd yn arwain at achosion gofal yn cynnwys eu plant wedi datgelu lefelau uwch o ddefnyddio gofal iechyd cyffredinol, gyda lefelau uwch mewn lleoliadau gofal iechyd brys o’u cymharu â rhieni heb gysylltiad â’r llysoedd teulu. At hynny, mae’r adroddiad yn amlygu lefelau uwch o ddefnyddio ofal iechyd sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a chyflyrau sy’n gysylltiedig ag anafiadau.
Canfu’r ymchwil fod rhieni yn y grŵp hwn tua theirgwaith yn fwy tebygol o gael o leiaf un cyflwr iechyd meddwl wedi’i gofnodi yn y ddwy flynedd cyn ymyrraeth y llysoedd, ac iselder yw’r mwyaf cyffredin (44% o famau a 24% o dadau) ynghyd â gorbryder (24% o famau a 15% o dadau). Roeddent tua naw gwaith yn fwy tebygol o gael salwch iechyd meddwl difrifol llai cyffredin, megis sgitsoffrenia. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod y rhieni hyn wedi profi lefelau uwch o ymweliadau ag adrannau brys oherwydd ymosodiadau neu hunan-niweidio (12 a 7 gwaith yn fwy tebygol o’u cymharu â rhieni eraill).
Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol (sef tîm ym Mhrifysgolion Caerlŷr ac Abertawe) ar gyfer Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield. Gan ddefnyddio Banc Data SAIL, cysylltodd ymchwilwyr data ar lefel poblogaethau a gesglir yn rheolaidd gan CAFCASS Cymru, â chofnodion ysbytai a meddygon teulu i ddarparu trosolwg o ddiamddiffynedd iechyd ymhlith mamau a thadau plant rhwng 0 ac 17 oed dros gyfnod o ddwy flynedd cyn iddynt fod yn rhan o achosion gofal plant adran 31 yng Nghymru.
Yn ogystal, roedd bron hanner y rhieni a astudiwyd yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng amddifadedd a phlant sy’n destun achosion gofal. Dyma fater a archwiliwyd mewn adroddiad arall gan yr un tîm a gyhoeddwyd heddiw.
Meddai Lisa Harker, Cyfarwyddwr Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield:
“Mae’r ymchwil yn datgelu’n llawn diamddiffynedd iechyd y rhieni sy’n dod i’r llysoedd teulu. Mae’n dangos bod problemau parhaus y mamau a’r tadau hyn wedi bod yn hysbys i’r gwasanaethau iechyd am sbel yn aml, ac felly mae’n nodi cyfle clir i ddiwallu anghenion penodol er mwyn lleihau nifer y plant sy’n dod i gysylltiad â’r system ofal.”
Meddai Rhodri Johnson, sy’n swyddog ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ac yn brif ymchwilydd yr astudiaeth:
“Gallai dealltwriaeth well o anghenion a diamddiffynedd y boblogaeth hon, gan gynnwys y rhesymau am fwy o ddefnydd o ofal iechyd brys gan y rhieni hyn, gynnig cyfleoedd i wella’r amrywiaeth o gefnogaeth ac ymyriadau ataliol sy’n ymateb i argyfyngau yn y gymuned.”
DIAMDDIFFYNEDD IECHYD RHIENI MEWN ACHOSION GOFAL YNG NGHYMRU.GWELD YR ADNODD.