{"id":15270,"date":"2023-02-15T10:01:30","date_gmt":"2023-02-15T10:01:30","guid":{"rendered":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/?p=15270"},"modified":"2023-02-15T10:01:32","modified_gmt":"2023-02-15T10:01:32","slug":"tim-o-brifysgol-abertawen-rhan-o-bartneriaeth-ledled-y-du-sydd-wedi-cael-2-2m-i-wella-ymchwil-i-ddementia","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/tim-o-brifysgol-abertawen-rhan-o-bartneriaeth-ledled-y-du-sydd-wedi-cael-2-2m-i-wella-ymchwil-i-ddementia\/","title":{"rendered":"T\u00eem o Brifysgol Abertawe&#8217;n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi cael \u00a32.2m i wella ymchwil i ddementia"},"content":{"rendered":"\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Mae t\u00eem o&#8217;r uned <a href=\"\/\/:\/\/www.swansea.ac.uk\/cy\/feddygaeth\/ymchwil\/gwybodeg-iechyd-cleifion-ar-boblogaeth\/gwyddor-data-poblogaeth\/\"><strong>Gwyddor Data Poblogaethau<\/strong><\/a> ym Mhrifysgol Abertawe&#8217;n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi sicrhau gwerth \u00a32.2 miliwn mewn cymorth gan <a href=\"\/\/:\/\/www.alzheimersdata.org\">ADDI (<em>Alzheimer\u2019s Disease Data Initiative<\/em>)<\/a> er mwyn helpu i bontio&#8217;r bwlch rhwng darganfyddiadau sylfaenol yn y labordy a threialu&#8217;n llwyddiannus ffyrdd newydd o drin dementia.<\/h5>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <a href=\"\/\/:\/\/www.dementiasplatform.uk\/\">DPUK (Dementias Platform UK),<\/a> y bartneriaeth ledled y DU sydd wedi sicrhau&#8217;r cymorth, yn bartneriaeth rhwng y sector cyhoeddus a&#8217;r sector preifat sy&#8217;n cyfuno arbenigedd prifysgolion, elusennau a chwmn\u00efau nwyddau fferyllol a thechnoleg i hwyluso darganfyddiadau hollbwysig wrth ymchwilio i ddementia.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan DPUK safleoedd ym mhrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt ac Abertawe, sy&#8217;n gartref i isadeiledd gwyddor data&#8217;r rhaglen, sef Porth Data DPUK.&nbsp; Mae Porth Data DPUK yn amgylchedd ar gyfer storio a dadansoddi data lle cedwir mwy na 50 o setiau data amrywiol sy&#8217;n cynnwys cofnodion mwy na 3.5 miliwn o bobl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y prosiect D3 (<em>Democratising Dementia Data<\/em>) a ddarperir gan DPUK yn cefnogi ADDI drwy ddemocrateiddio mynediad at ddata sy&#8217;n berthnasol i ddementia ar lefel fyd-eang. Rhaid i ADDI gael mynediad cyflym at setiau data aml-ddull mawr ar draws awdurdodaethau, a dyna&#8217;r her y mae\u2019r prosiect D3 yn ceisio ymdrin \u00e2 hi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyfarnwyd cyllid uniongyrchol gwerth \u00a31 miliwn i Brifysgol Abertawe i ddarparu&#8217;r isadeiledd a datblygu&#8217;r rhyngwyneb rhwng DPUK ac isadeileddau eraill er mwyn hwyluso mynediad ffederal byd-eang at ddata penodol i ddementia drwy <a href=\"\/\/:\/\/www.alzheimersdata.org\/ad-workbench\"><em>The Alzheimer\u2019s Disease Workbench<\/em> <\/a>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p><strong>Meddai&#8217;r Athro John Gallacher, Cyfarwyddwr DPUK<\/strong>: \u201cMynediad at ddata o safon uchel yw sbardun mwyaf ymchwil wyddonol. Mae hyn yn berthnasol yn enwedig i gyflyrau cymhleth fel dementia. Rydyn ni wrth ein boddau i weithio gydag ADDI i sicrhau bod data sy&#8217;n barod at ddibenion ymchwil yn fyd-eang ar gael ar gyfer ymchwil i ddementia.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p><strong>Meddai&#8217;r Athro Simon Thompson, Dirprwy Gyfarwyddwr Cysylltiol DPUK a Phrif Swyddog Technegol Porth Data DPUK<\/strong>: \u201cMae&#8217;n wych bod yn rhan o brosiect byd-eang mor arloesol. Fel t\u00eem, rydyn ni&#8217;n edrych ymlaen at ddatblygu&#8217;r isadeiledd a&#8217;r rhyngwyneb ar gyfer D3, gan gynyddu&#8217;r setiau data sydd ar gael, a sicrhau ein bod ni&#8217;n meithrin y gallu i ateb y galw os bydd yn cynyddu.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p><strong>Meddai&#8217;r Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr Cysylltiol&nbsp; DPUK ac Arweinydd Porth Data DPUK<\/strong>: \u201cMae dementia&#8217;n un o&#8217;r heriau mwyaf i iechyd y cyhoedd yn fyd-eang. Rydyn ni wrth ein boddau i weithio gyda phartneriaid DPUK ar y prosiect hwn, a fydd yn galluogi ymchwilwyr, drwy <em>The Alzheimer\u2019s Disease Work Bench<\/em>, i gael mynediad cyflym at ddata cyfoethog er mwyn helpu i drawsnewid ein dealltwriaeth o ddementia.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p><strong>Meddai Dr Tetsuyuki Maruyama, Cyfarwyddwr Gweithredol yn ADDI:<\/strong>&nbsp;\u201cMae gan y bartneriaeth y potensial i gyflymu ymchwil ar gyfer clefyd Alzheimer a dementias cysylltiedig. Drwy gydweithio ar y prosiect D3, bydd ADDI a DPUK yn galluogi mwy o ryngweithredu data ac yn ei gwneud yn haws i ymchwilwyr gydweithio a dod \u00e2 dementia i ben.\u201d&nbsp;<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"\/\/:\/\/www.dementiasplatform.uk\/\"><strong>Am fwy o wybodaeth ewch i DPUK<\/strong><\/a><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><a href=\"\/\/:\/\/www.alzheimersdata.org\/\" data-type=\"URL\" data-id=\"\/\/:\/\/www.alzheimersdata.org\/\">Am fwy o wybodaeth ewch i ADDI<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae t\u00eem o&#8217;r uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe&#8217;n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi sicrhau gwerth \u00a32.2 miliwn mewn cymorth gan ADDI (Alzheimer\u2019s Disease Data Initiative) er mwyn helpu i bontio&#8217;r bwlch rhwng darganfyddiadau sylfaenol yn y labordy a threialu&#8217;n llwyddiannus ffyrdd newydd o drin dementia. Mae DPUK (Dementias Platform UK),&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":15267,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[34],"tags":[654,655,231,155,563,134,656],"class_list":["post-15270","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","tag-alzheimers-disease-data-initiative-addi-cy","tag-cambridge-university-cy","tag-dementias-platform-uk-cy","tag-population-data-science-cy","tag-professor-ronan-lyons-cy","tag-swansea-university-cy","tag-university-of-oxford-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15270","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15270"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15270\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15276,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15270\/revisions\/15276"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15267"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15270"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15270"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15270"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}