{"id":17923,"date":"2024-03-26T09:21:40","date_gmt":"2024-03-26T09:21:40","guid":{"rendered":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/new-research-project-to-link-housing-administrative-and-health-data-across-england-scotland-and-wales\/"},"modified":"2024-03-27T15:43:37","modified_gmt":"2024-03-27T15:43:37","slug":"new-research-project-to-link-housing-administrative-and-health-data-across-england-scotland-and-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/new-research-project-to-link-housing-administrative-and-health-data-across-england-scotland-and-wales\/","title":{"rendered":"Prosiect ymchwil newydd i gysylltu data tai, gweinyddol ac iechyd ledled Cymru, Lloegr a&#8217;r Alban\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<h5 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;r prosiect Aelwydydd Iach newydd, a ariennir gan ADR UK, ar fin trawsnewid sut mae ymchwilwyr yn dadansoddi data am aelwydydd yn y DU.<\/h5>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dan arweiniad Dr Richard Fry, Athro&#8217;r Amgylchedd ac Iechyd yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe ac arweinydd thematig <a href=\"file:\/\/\/C:\/Users\/cath\/AppData\/Local\/Microsoft\/Windows\/INetCache\/Content.Outlook\/ZLPIUUQ5\/adrwales.org\">Ymchwil Data Gweinyddol Cymru<\/a>, nod y prosiect hwn yw creu set ddata gynhwysfawr sy&#8217;n cysylltu data am dai \u00e2 data gweinyddol ac iechyd ar gyfer Cymru, Lloegr a&#8217;r Alban.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd t\u00eem y prosiect hefyd yn datblygu adnoddau i gefnogi ymchwilwyr sy&#8217;n defnyddio&#8217;r data hwn. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth newydd sy&#8217;n berthnasol i bolisi o gyfansoddiad aelwydydd a&#8217;u hamgylchiadau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall cyfansoddiad aelwydydd effeithio ar ganlyniadau cymdeithasol, economaidd ac iechyd y rhai hynny sy&#8217;n byw ynddynt. Yn benodol, mae pandemig COVID-19 a&#8217;r cyfyngiadau symud cysylltiedig wedi amlygu effaith amgylchiadau megis gorboblogi ar iechyd corfforol a meddyliol ac addysg. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw&#8217;n bosib i ymchwilwyr ddadansoddi aelwydydd mewn setiau data gweinyddol ac iechyd poblogaethau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nod y prosiect hwn yw mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r her hon gan ddefnyddio rhifau cyfeirnod eiddo unigryw \u2013 dynodyddion unigryw a roddir i bob lleoliad hygyrch yn y DU. Mae amgryptio neu godio&#8217;r rhifau unigryw hyn yn ffordd ddiogel o gysylltu gwybodaeth ddienw am bobl sy&#8217;n rhannu&#8217;r un aelwyd, ac o gysylltu&#8217;r wybodaeth hon \u00e2 data arall ar lefel cyfeiriad. Bydd hyn yn hwyluso ymchwil sy&#8217;n cydnabod cyfansoddiad ac amgylchiadau aelwydydd unigol wrth ymchwilio i ganlyniadau aelodau&#8217;r aelwydydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Prifysgol Caeredin, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain ac Ymddiriedolaeth Elusennol Endeavour Health yn cydweithredu \u00e2 Phrifysgol Abertawe ar y prosiect hwn. Bydd y prosiect yn dod \u00e2 ffynonellau data allweddol ynghyd, gan gynnwys data cofrestru cleifion gyda meddygon teulu a data clinigol, rhifau cyfeirnod eiddo unigryw, ynghyd \u00e2 setiau data am dai sy&#8217;n seiliedig ar gyfeiriadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio a ddelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a Chofrestr y Dystysgrif Perfformiad Ynni sydd ar gael i&#8217;r cyhoedd.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Meddai&#8217;r Athro Richard Fry:<\/strong> <em>\u201cGall y prosiect hwn gael effaith enfawr. Drwy archwilio amgylchiadau aelwydydd megis gorboblogi a\u2019u cyfansoddiad, gall ymchwilwyr feithrin dealltwriaeth well o&#8217;u goblygiadau ar gyfer canlyniadau economaidd-gymdeithasol, ynghyd ag iechyd ac addysg. Bydd cyrff llywodraethol sy&#8217;n gweithio gyda sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn elwa o ddealltwriaeth ar lefel aelwydydd, a fydd yn llywio&#8217;r gwaith o gynllunio a gwerthuso gwasanaethau.\u201d<\/em><em><\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd set ddata sy&#8217;n barod at ddibenion ymchwil wedi&#8217;i chreu gan y prosiect hwn ar gael i ymchwilwyr achrededig gyflwyno cais i gyrchu <a href=\"https:\/\/saildatabank.com\/\">Banc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) <\/a>, ochr yn ochr \u00e2 data synthetig o ogledd-ddwyrain Llundain a dulliau a ddefnyddir yn Hafan Ddiogel Genedlaethol yr Alban. Bydd dulliau o greu uned dadansoddi aelwyd gan ddefnyddio data cofrestru cleifion ar gael ar GitHub i&#8217;w defnyddio mewn amgylcheddau ymchwil dibynadwy fel y Gwasanaeth Data Integredig, yn unol \u00e2 mesurau llywodraethu data.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/www.adruk.org\/our-work\/browse-all-projects\/healthy-households\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Ceir rhagor o wybodaeth a&#8217;r newyddion diweddaraf am y prosiect hwn drwy fynd i wefan ADR UK.<\/strong><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r prosiect Aelwydydd Iach newydd, a ariennir gan ADR UK, ar fin trawsnewid sut mae ymchwilwyr yn dadansoddi data am aelwydydd yn y DU. Dan arweiniad Dr Richard Fry, Athro&#8217;r Amgylchedd ac Iechyd yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe ac arweinydd thematig Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, nod y prosiect hwn yw creu&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":7,"featured_media":17915,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[34],"tags":[142,198,244,233,1175,1176,356,469,1177,754,134,1178],"class_list":["post-17923","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","tag-administrative-data-cy","tag-adr-uk-cy","tag-covid-19-cy","tag-england-cy","tag-health-data-cy","tag-housing-data-cy","tag-ons-cy","tag-pandemic-cy","tag-prof-richard-fry-cy","tag-sail-databank-cy","tag-swansea-university-cy","tag-wales-scotland-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/17923","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=17923"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/17923\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":17925,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/17923\/revisions\/17925"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/17915"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=17923"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=17923"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/popdatasci.swan.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=17923"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}