

Mae astudiaeth gydweithredol fawr newydd sy’n cynnwys ymchwilwyr Gwyddor Data Poblogaethau, a gyhoeddwyd yn y Lancet Public Health, yn darparu dealltwriaeth newydd a allai wella bywydau’r nifer cynyddol o unigolion sy’n byw gyda dau gyflwr iechyd cronig neu ragor.
Oherwydd bod pobl yn byw yn hirach ac yn goroesi cyflyrau acíwt yn well, mae nifer y bobl sy’n byw gyda chydafiechedd – sef presenoldeb dau gyflwr iechyd cronig neu ragor ar yr un pryd – yn cynyddu. Mae cyfradd twf cydafiechedd yn her i systemau gofal iechyd, oherwydd eu bod wedi’u dylunio’n bennaf ar gyfer cleifion sydd ag un cyflwr yn unig.
Gwnaeth papur diweddar wedi’i ariannu gan Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK) ac wedi’i gynnwys yn y Lancet Public Health, archwilio gwaith adrodd am gydafiechedd a’i fesur ar draws 566 o astudiaethau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid, a darganfu bod gwaith mesur cydafiechedd yn fyd-eang yn cael ei adrodd yn wael ac mae’n hynod amrywiol. Mae’n galw am waith adrodd cyson am ddiffiniadau mesur, ac astudiaethau consensws er mwyn helpu i wella ymchwil a bywydau’r rhai sy’n byw gyda chydafiechedd.
Tybir mai’r papur hwn yw’r adolygiad systematig mwyaf o’i fath hyd yma, ac mae’n archwilio diffiniad a mesuriad cydafiechedd ar lefel ryngwladol â’r nod o ddarparu cipolwg ar gydafiechedd nad oedd ar gael ynghynt. Adolygodd y papur y ffordd mae cydafiechedd wedi cael ei fesur ynghynt, yn ogystal â’r amrywiaethau mewn cyflyrau cronig.
Mae canfyddiadau’r papur yn dangos bod gwaith mesur cydafiechedd yn cael ei adrodd yn wael ac mae’n hynod amrywiol, ac nid oedd un astudiaeth ym mhob wyth yn adrodd pa gyflyrau oedd wedi’u cynnwys yn ei mesuriad. Wyth cyflwr yn unig oedd wedi’u cynnwys gan fwy na hanner yr astudiaethau, ac roedd llai na hanner yr astudiaethau yn cynnwys cyflwr iechyd meddwl unigol.
Mae awduron y papur yn galw ar gyfnodolion i adrodd am ddiffiniadau mesur yn gyson, yn ogystal â galw am astudiaethau consensws er mwyn diffinio cyflyrau craidd a chyflyrau sy’n dibynnu ar astudiaethau wrth fesur cydafiechedd.
Meddai’r Athro Colin McCowan, Athro Gwyddor Data Iechyd ym Mhrifysgol St Andrews:
“Mae’r gwaith hwn yn dangos bod cydafiechedd yn broblem a gydnabyddir yn rhyngwladol, ond hefyd mae’n dangos un o’r heriau allweddol y mae ymchwilwyr yn ei hwynebu, sef ei bod hi’n anodd dysgu gan waith blaenorol oherwydd y gall cydafiechedd olygu cynifer o bethau gwahanol gan ei fod yn cael ei fesur mor wahanol. Bydd yr adolygiad hwn, a oedd yn cynnwys ymchwilwyr ledled y DU, yn ein helpu i ddeall gwaith blaenorol yn well, gan ein galluogi i feithrin ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth er mwyn helpu cleifion a gwasanaethau iechyd yn well i reoli cydafiechedd.”
Gallwch ddarllen yr papur llawn yma – //://www.thelancet.com/journals/lanpub/article/PIIS2468-2667(21)00107-9/fulltext