

Ym mis Gorffennaf eleni, gwnaethom drafod gydag aelodau o grŵp ‘Cymru’n Un’ yr ymagwedd ar y cyd i ddeall cyfraddau brechu a diogelwch yng Nghymru ymhlith pobl dros 80 oed. Mae’r grŵp bellach wedi archwilio anghydraddoldebau brechu ymhlith pobl dros 50 oed ymysg lleiafrifoedd ethnig ac ardaloedd difreintiedig.
Mae tîm Cymru’n Un yn cynnwys grwpiau amlddisgyblaethol o arbenigwyr o Wyddor Data Poblogaethau Prifysgol Abertawe, Iechyd Cyhoeddus Cymru, GIG Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Llywodraeth Cymru, HDR UK, ADR Cymru ac eraill.

Yng nghyhoeddiad mynediad agored diweddaraf y grŵp, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Vaccine, gwerthusodd yr awdur arweiniol a’r epidemiolegydd, Malorie Perry, gyfraddau brechu ar draws Cymru i archwilio’r potensial am anghydraddoldebau. Gwnaethant ddarganfod bod cyfraddau brechu yn is mewn ardaloedd difreintiedig ac ymysg grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
Cafodd yr holl ddadansoddiadau eu cwblhau gan ddefnyddio Banc Data SAIL, Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (TRE) a gynhelir gan Brifysgol Abertawe, fel rhan o brosiect Con-COV a ariennir gan yr UKRI: Controlling COVID-19 through enhanced population surveillance and intervention.
I oresgyn y broblem o ddiffyg data am ethnigrwydd mewn Cofnodion Iechyd Electronig, defnyddiodd y tîm ffynonellau data amrywiol gan gynnwys data o’r cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sydd ar gael ym Manc Data SAIL, i greu cysylltedd data a galluogi dadansoddiad o anghydraddoldebau brechu ar raddfa’r boblogaeth.
Mae canfyddiadau’r grŵp o bwys arbennig gan fod canlyniadau mwy difrifol clefyd Covid-19 wedi’u gweld yn y grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ogystal â’r rhai hynny sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Y gobaith yw y bydd y canfyddiadau hyn yn arwain at wella arolygiadau arferol ac ymyriadau a dargedir a allai gynnwys llythyrau uniongyrchol a galwadau ffôn, ac ymgysylltiad ehangach â’r gymuned i liniaru anghydraddoldebau. Mae’r awduron yn galw am ymchwil pellach i ganfod ai yn anghydraddoldebau mewn darpariaeth gwasanaeth neu ffactorau eraill yw’r achosion sylfaenol.
Meddai’r Uwch Epidemiolegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe, Malorie Perry, a arweiniodd yr ymchwil,
“Cyn ymgymryd â’r gwaith hwn, roeddem yn ymwybodol o anghydraddoldebau posib mewn cyfraddau brechu yng Nghymru ond nid oeddem yn gallu mesur hyd a lled y gwahaniaethau hyn. Mae’r cyfle i lunio ffigurau cywir am gyfraddau, yn arbennig fesul grŵp ethnig, a bwydo’r wybodaeth hon yn uniongyrchol i ddarparwyr y gwasanaeth yn rhoi Cymru mewn sefyllfa unigryw.
Mae archwilio rhai o’r ffactorau lluosog a chymhleth sy’n gysylltiedig â chyfraddau isel yn arbennig o fuddiol nawr bod y cyfraddau wedi dechrau sefydlogi ac wrth i achosion gynyddu. Dylai sicrhau mynediad teg at frechiadau ac felly ddiogelu yn erbyn Covid-19 gael blaenoriaeth”.
Meddai’r Uwch-ymchwilydd a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe, Ashley Akbari, a ddatblygodd ddull i greu meingefn ethnigrwydd y boblogaeth,
“Mae defnyddio ffynonellau data graddfa’r boblogaeth ar lefel unigol ac anhysbys gan ystod o ffynonellau data iechyd, gweinyddol a rhai eraill, yn galluogi ymchwilwyr i werthuso a chanfod gwybodaeth newydd na fyddai wedi bod yn bosib heb raddfa a chysylltedd y data sydd ar gael mewn amgylchedd ymchwil dibynadwy megis Banc Data SAIL.”
“Mae meingefn ethnigrwydd Cymru yn enghraifft o’r math hwn o gyfle newydd, yr ydym wedi’i ddefnyddio yn yr allbwn newydd hwn i archwilio’r cysylltiadau rhwng cyfraddau brechu ac anghydraddoldebau. Ein gobaith yw datblygu ymhellach y meingefn ethnigrwydd poblogaeth yn y dyfodol, sy’n cael ei ddefnyddio ar draws nifer o weithgareddau ymchwil parhaus a chynlluniedig i gyfraddau brechu, a chwestiynau ymchwil ehangach ar Covid-19. Wrth weithio tuag at hyn, mae ein hymagwedd gwyddoniaeth tîm a fabwysiadwyd at ymchwil a deallusrwydd yn bwysig i sicrhau bod cwestiynau’n cael eu hateb mewn ffordd amserol a bod yr ystod o arbenigedd ar gael hefyd”.
Mae’r cyhoeddiad ymchwil llawn ar gael yma:
//://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0264410X21011981?via%3Dihub#b0090