

Roedd y prosiect cydweithredol hwn, a gyhoeddwyd yn BJPsych Open, yn cynnwys timau o Iechyd Meddwl Poblogaeth sy’n rhan o Grŵp Gwyddor Data Poblogaeth, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Chanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwrosieciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd. Amcan eu hymchwil yw torri tir newydd drwy ymchwilio i’r cysylltiad rhwng y rhagdueddiad genetig ar gyfer sgitsoffrenia ac iechyd corfforol gwaeth drwy gysylltu data genetig â Chronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) sy’n dal cyfoeth o ddata iechyd a gesglir fel mater o drefn ar draws gwasanaethau yng Nghymru.
Mae disgwyliad oes unigolion â sgitsoffrenia 20 mlynedd yn llai’r cyfartaledd. Ffactor o bwys sy’n cyfrannu at hyn yw cyfradd uwch o ddeilliannau iechyd corfforol gwael mewn unigolion â sgitsoffrenia. Ymhlith y cyflyrau corfforol hyn y mae’r rheiny sy’n effeithio ar fetaboledd y corff (biogemegau sy’n cynyddu ac yn dadelfennu yn y corff), cyflyrau’r galon a chlefyd anadlol.
Diffiniad y GIG o sgitsoffrenia yw ‘cyflwr iechyd meddwl hirdymor a difrifol…’ sydd ag ‘…ystod o symptomau seicolegol gwahanol’. Hwyrach y bydd y sawl sy’n dioddef o’r cyflwr, a ddisgrifir fel math o seicosis, yn cael trafferth i wahaniaethu realiti oddi wrth feddyliau lledrithiol ac yn rhith-weld. Hyd yn hyn, nid ydym yn llwyr ddirnad union achosion sgitsoffrenia ond mae astudiaethau blaenorol wedi dangos bod a wnelo genynnau person rhywbeth â’r cyflwr.
Er mwyn cysylltu data genetig â chofnodion iechyd gwasanaethau iechyd, casglodd y tîm ymchwil yng Nghaerdydd ddata gan unigolion â sgitsoffrenia. Diffiniwyd atebolrwydd genetig sgitsoffrenia yn unol â nifer yr amrywiolion prin sy’n cael eu copïo (sef y cellwyriadau a gymerir â genom cyfeirio) a chanlyniadau risg polygenig (sef amcangyfrifon o atebolrwydd genetig unigolyn i nodwedd neu glefyd). Yna cafodd y data hwn ei wneud yn ddienw a’i gyfuno â chofnodion y GIG yng nghronfa ddata SAIL yn Abertawe. Cafodd y mathau o salwch corfforol eu diffinio gan ddefnyddio’r cronfeydd data gofal sylfaenol ac eilaidd.
Daeth y tîm ymchwil i’r casgliad bod gan unigolion â sgitsoffrenia gyfraddau uwch o anhwylderau niwroddatblygiadol (epilepsi, anabledd deallusol ac anhwylderau cynhwynol), ysmygu, diabetes mellitus math 2 a chlefyd isgemia’r galon o’u cymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol. Fodd bynnag, hwyrach nad yw risgiau uwch y mathau hynny o salwch yn digwydd o ganlyniad i atebolrwydd genetig sgitsoffrenia.
Dyma’r hyn a ddywedodd yr Athro Ann John a arweiniodd dîm Abertawe, ‘Hyd y gwyddom, dyma’r astudiaeth gyntaf sy’n cyfuno gwybodaeth genetig, cofnodion iechyd gweinyddol a data cymdeithasol-ddemograffig yng nghronfa ddata SAIL er mwyn deall cyflwr clefyd yn well. Mae’r astudiaeth hon yn dangos gwerth cysylltu data genetig â data iechyd a gesglir fel mater o drefn.’
Dyma’r hyn a ddywedodd Dr Sze Chim Lee a gysylltodd y cofnodion iechyd dienw, ‘Mae defnyddio dull o’r fath yn agor llawer o bosibiliadau o ran creu cyfoeth o dystiolaeth, megis chwilio am achosion clefydau yn ogystal â’r gwaith o gyflenwi a gwerthuso ymyraethau o safbwynt cymdeithasol, economaidd a genetig i wella deilliannau iechyd cleifion.’