

Bydd ymchwilwyr yn profi ymagweddau at sefydlu astudiaeth newydd o bwys ledled y Deyrnas Unedig a fydd yn dilyn babanod a enir yn y 2020au dros nifer o ddegawdau, er mwyn deall sut mae amgylchiadau a digwyddiadau cymdeithasol yn effeithio arnynt. Bydd buddsoddiad gwerth £3 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Unedig, yn galluogi ymchwilwyr i ddatblygu astudiaeth ddichonoldeb carfan genedigaethau a fydd yn para dwy flynedd.
Bydd yr astudiaeth hon yn datblygu ac yn profi dyluniad, methodoleg a dichonoldeb Astudiaeth Carfan Bywyd Cynnar ar raddfa lawn sy’n debygol o ddilyn cyfranogwyr am fwy na 70 mlynedd, gan ddechrau yn 2024.
Bydd arbenigwyr o’r adran Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn rhan o Dîm Arweinyddiaeth Wyddonol a Chyflenwi’r astudiaeth bwysig hon ledled y DU. Bydd yr Athro Kerina Jones a Dr Lucy Griffiths o Brifysgol Abertawe yn arwain ar waith samplu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru, ac yn sicrhau y bydd data gan boblogaeth Cymru sy’n ymwneud â genedigaethau, plentyndod a’r tu hwnt yn cael ei gynrychioli’n gywir yng ngharfan y DU.
Meddai Dr Lucy Griffiths, sy’n aelod o’r Tîm Arweinyddiaeth Wyddonol a Chyflenwi ac yn rhan o waith samplu carfan Cymru a’r gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid:
“Mae’r astudiaeth hon yn bwysig gan fod teuluoedd Cymru wedi bod mewn sefyllfaoedd cymdeithasol-economaidd ansicr yn hanesyddol, a nawr maen nhw’n wynebu heriau a phryderon ychwanegol ar ôl y pandemig a Brexit. Rwy’n gobeithio y gallwn ni ddangos dichonoldeb a gwerth astudiaeth gyfoes newydd o garfan genedigaethau er mwyn deall bywydau ac amgylchiadau plant a fydd yn cael eu geni yn y 2020au ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach.”
Bydd yr Athro Alissa Goodman, a’r Athro Lisa Calderwood o Ganolfan Astudiaethau Hydredol Coleg y Brifysgol Llundain, a’r Athro Pasco Fearon o adran Seicoleg a Gwyddorau Iaith Coleg y Brifysgol Llundain, yn arwain Astudiaeth Ddichonoldeb y Garfan Bywyd Cynnar. Mae tîm yr astudiaeth yn cynnwys ymchwilwyr o brifysgolion Abertawe, Caeredin, Ulster, Prifysgol y Frenhines Belfast a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion.
Yn ystod y cyfnod peilot cynnar hwn, mae Banc Data SAIL yn cael ei ystyried fel dull helpu i recriwtio i’r astudiaeth ac efallai ddarparu cysylltedd data ar draws ffynonellau data gwahanol. Bydd y data hwn, pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â data tebyg ledled y Deyrnas Unedig, yn ein helpu i ddeall sut bydd amgylchiadau eu magu yn effeithio ar blant a enir yn y 2020au. Gallai’r rhain cynnwys strwythur yr aelwyd, statws economaidd rhieni ac, yn ystod camau hwyrach yr astudiaeth, grwpiau cyfoedion plant a’u profiad yn yr ysgol. Mae newidiadau a digwyddiadau mawr yn y gymdeithas ers dechrau’r ganrif wedi effeithio’n ddwfn ar amgylchiadau fel yr rhain.
Meddai’r Athro Kerina Jones, sy’n aelod o’r Tîm Arweinyddiaeth Wyddonol a Chyflenwi ac yn rhan o weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid:
“Yn sgîl digwyddiadau gwleidyddol diweddar, y pandemig a newidiadau cymdeithasol cyflym, dyma amser delfrydol ar gyfer dechrau carfan genedigaethau newydd ledled y Deyrnas Unedig. Mae’n cael ei dylunio gyda chyfleoedd i aelodau o’r cyhoedd ac amrywiaeth eang o randdeiliaid ddylanwadu ar ddatblygiad a hynt yr astudiaeth, er mwyn helpu i sicrhau ei bod yn mynd i’r afael ag anghenion bywydau newydd yn y llywodraethau datganoledig. Felly, mae’n hynod werthfawr i ni yng Nghymru.”
Mae astudiaethau carfan genedigaethau yn cynnwys ail-adrodd arolygon o filoedd o unigolion – pob un ohonynt wedi’i eni tua’r un pryd – o’u plentyndod cynnar a thrwy gydol eu bywydau. Maent yn darparu data er mwyn helpu ymchwilwyr i ddeall bywydau cenedlaethau gwahanol o blant wrth iddynt gael eu magu, a chysylltu profiadau yn ystod plentyndod â phrofiadau a chanlyniadau drwy gydol gweddill eu bywydau. Mae canfyddiadau’r astudiaethau hyn wedi dylanwadu ar waith polisi cyhoeddus mewn llawer o ffyrdd.
Mewn un enghraifft, defnyddiodd ymchwilwyr ddata o Astudiaeth Carfan y Mileniwm er mwyn dangos bod 16% o bawb a oedd yn 14 oed yn y Deyrnas Unedig yn 2015 yn dioddef o iechyd meddwl gwael. Amlygodd y canfyddiadau hyn am y tro cyntaf raddau iechyd meddwl gwael ymhlith pobl ifanc ar lefel genedlaethol, gan sbarduno polisi a strategaethau newydd gan y llywodraeth ar gyfer gwella iechyd meddwl pobl ifanc.
Meddai’r Athro Alissa Goodman, Cyd-gyfarwyddwr yr astudiaeth a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Hydredol:
“Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb hon yn darparu gwybodaeth hanfodol am fabanod sy’n cael eu geni ledled y Deyrnas Unedig ar adeg allweddol ar gyfer ein cymdeithas a’n heconomi, gan ddarparu tystiolaeth newydd ynghylch y ffactorau sy’n effeithio ar ddatblygiad yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd.”
“Byddwn ni’n defnyddio amrywiaeth o ymagweddau a thechnolegau er mwyn casglu profiadau cyfranogwyr o bob cefndir, gan gynnwys y rhai o grwpiau a fydd yn cael eu tangynrychioli fel arfer. Bydd y data y byddwn ni’n ei gasglu yn rhoi inni gipolwg manwl ar fywydau cenhedlaeth newydd, ond hefyd gobeithio y bydd yn arwain y ffordd ymhen amser ar gyfer astudiaeth gyflawn newydd o garfan genedigaethau.
“Rydym ni’n edrych ymlaen at chwarae ein rhan ni wrth atgyfnerthu enw da’r Deyrnas Unedig fel arweinwyr y byd mewn gwaith cynnal astudiaethau o garfan genedigaethau.”
Ers y 1940au, mae’r DU wedi datblygu cyfres o astudiaethau carfan genedigaethau sy’n arwain y byd. Mae portffolio UKRI yn cynnwys astudiaethau sydd wedi dilyn bywydau carfannau mawr o bobl a anwyd tua chenhedlaeth ar wahân, ym 1946, 1958, 1970, 1989-90 a 1990-1, a 2000-2. Mae’r astudiaethau hyn yn casglu data sy’n darparu adnodd ymchwil gwerthfawr i wyddonwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi o bedwar ban byd, ac maent yn parhau i alluogi ymchwil sy’n arwain y byd gyda mewnbwn gwyddonol ac ymarferol sylweddol.
Mewn enghraifft arall o fanteision astudiaethau carfan genedigaethau, mae ymchwilwyr wedi dangos bod plant a anwyd yn yr haf o dan anfantais mewn perthynas â’r system derbyn i ysgolion. Hefyd, mae ymchwilwyr wedi defnyddio astudiaethau carfan genedigaethau er mwyn datgelu effeithiau tymor hir gordewdra yn ystod plentyndod, a all barhau hwyrach mewn bywyd.
Mae datblygiadau sylweddol mewn technoleg ddigidol dros y ddau ddegawd diwethaf yn rhoi cyfleoedd newydd i gasglu data mewn astudiaeth newydd o garfan bywyd cynnar. Gellid casglu data drwy ffonau clyfar, gellid recordio cyfranogwyr ar fideo yn ystod cyfweliadau, a gellid cysylltu setiau data. Bydd yr Astudiaeth Ddichonoldeb yn profi’r rhain, ynghyd ag ymagweddau eraill.
Bydd rhieni babanod yn cael eu dethol o ledled y Deyrnas Unedig, a byddant yn cael eu gwahodd i gyfranogi yn yr astudiaeth, gan sicrhau ei bod yn gynhwysol ac yn gynrychiadol o’r plant sy’n cael eu geni.
Wrth gomisiynu’r astudiaeth, cafodd yr ESRC ei lywio gan ymarfer dialog cyhoeddus annibynnol wedi’i arwain gan Brifysgol Warwig. Bydd rhagor o waith ymgysylltu â’r cyhoedd fel rhan o’r astudiaeth ddichonoldeb.
Disgwylir y bydd yr astudiaeth yn cael ei chynnal o 2021 tan 2023.