

Mae ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw am fabanod sy’n destun achosion gofal yn datgelu bod nifer yr achosion wedi parhau i gynyddu yng Nghymru a Lloegr yn y blynyddoedd diwethaf. Mae ystadegau’n dangos hefyd mai ychydig iawn o rybudd ffurfiol a roddir i rieni babanod newydd-anedig fod achosion gofal wedi dechrau a bod yr achos yn dod ger bron llys, a allai olygu cymryd eu baban o’u gofal.
Yn ôl canfyddiadau’r ymchwil, cynyddodd nifer y babanod newydd-anedig a fu’n destun achosion gofal yn Lloegr 20% rhwng 2012/13 a 2019/20, gan gynyddu o 2,425 i 2,914 y flwyddyn. Y cynnydd yng Nghymru oedd 40% (o 145 i 203 o fabanod y flwyddyn).
Pan fydd awdurdod lleol yn dechrau achos gofal yn unol ag adran 31 o Ddeddf Plant 1989, gellir cyflwyno cais am wrandawiad brys. Yn y flwyddyn ddiwethaf, cafodd dros bedwar o bob pum achos yn Lloegr, a thri chwarter yr achosion yng Nghymru, eu clywed o fewn llai na saith niwrnod ar ôl y rhybudd ffurfiol. Roedd rhaid i un o bob chwech o’r mamau hyn wynebu rhybudd o achos gofal a’r gwrandawiad ar yr un dydd.
Gall gwrandawiadau brys fod yn hynod drawmatig os cânt eu clywed yn syth ar ôl yr enedigaeth, a gallant niweidio hawliau Erthygl 6 rhieni o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, oherwydd bod y cyfnod rhybudd yn ei gwneud hi’n anodd iawn i rieni roi cyfarwyddiadau effeithiol i gyfreithiwr. Mae achosion gofal ar fyr rybudd hefyd yn golygu bod ychydig iawn o amser gan y gweithiwr cymdeithasol sy’n cynrychioli’r plentyn i archwilio’r achos a chynghori’r llys ynghylch buddion gorau’r plentyn. Cafodd pryderon cynyddol ynghylch achosion gofal brys sylw canolog yn adroddiad diweddar Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus Llywydd yr Adran Deuluoedd, a alwodd am gasglu data dibynadwy am geisiadau brys. Ers i Ddeddf Plant 1989 ddod i rym, nid oes adolygiad systematig wedi’i gynnal am sut caiff achosion brys eu rheoli ar gyfer babanod newydd-anedig. Nod yr ymchwil yw sbarduno sgwrs genedlaethol am y mater hollbwysig hwn.
Cynhaliwyd yr ymchwil newydd gan y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol (tîm ym Mhrifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Abertawe) ar gyfer Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield, a defnyddiodd ddata gweinyddol sydd ar gael ym Manc Data SAIL. Canfu hefyd fod gwahaniaethau arwyddocaol iawn rhwng Llundain a Chymru a sawl rhanbarth yn Lloegr, yn enwedig y gogledd-orllewin, y gogledd-ddwyrain, Swydd Efrog a’r Humber. Yn Llundain ceir y nifer isaf o fabanod newydd-anedig sy’n destun achosion gofal, llai na thraean y niferoedd yng ngogledd-ddwyrain Lloegr a llai na hanner y niferoedd yng ngogledd-orllewin Lloegr neu yng Nghymru.
Yn Llundain mae llai nag un o bob 10 gwrandawiad yn cael ei glywed yr un diwrnod ac mae’r niferoedd bron mor isel yn y de-ddwyrain. Mewn gwrthgyferbyniad, yn y gogledd-ddwyrain, mae cyfran yr achosion sy’n cynnwys babanod newydd-anedig wedi dyblu yn y rhanbarth yn ystod y cyfnod (i 41% yn 2019/20) – y gyfradd uchaf yng Nghymru a Lloegr o bell ffordd. Yn Swydd Efrog a’r Humber, er bod cyfran y gwrandawiadau a glywir yr un diwrnod yn is nag yn y gogledd-ddwyrain, 27% oedd y gyfran yn 2019/20 sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 18.5% ac yn cynyddu. Mae’n debygol bod nifer o ffactorau cysylltiedig yn effeithio ar y sefyllfa, gan gynnwys lefelau tlodi, y gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi mamau a babanod sy’n agored i niwed, a pholisïau rhyddhau o’r ysbyty.
Meddai Lisa Harker, Cyfarwyddwr Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield:
“Mae gwahanu mam a’i babi’n drawmatig iawn i bawb ac mae’r effeithiau’n para gydol oes. Er bod angen gweithredu ar frys mewn rhai achosion lle bo angen diogelu ar unwaith yn dilyn genedigaeth baban, mae pryder helaeth bod nifer yr achosion hyn yn cynyddu.
“Mae’n ymddangos nid yn unig fod cyfleoedd yn cael eu colli i weithio’n llawer cynharach gyda mamau sy’n agored i niwed i roi’r cyfle gorau iddyn nhw aros gyda’i gilydd fel teulu, ond lle nad yw hynny’n bosib, yn aml nid yw’r broses yn cael ei rheoli mewn modd sensitif a thrugarog.”
Meddai’r Athro Karen Broadhurst, prif ymchwilydd y prosiect ymchwil:
“Mae amddifadedd ar y cyd â diffyg gwasanaethau yn storm berffaith wrth geisio cadw teuluoedd gyda’i gilydd. Mae ymchwil flaenorol wedi awgrymu bod darpariaeth well gwasanaethau atal yn Llundain, megis lleoliadau mam a baban a safon eiriolaeth gyfreithiol, wedi arwain at lai o achosion yn cael eu cychwyn sy’n cynnwys babanod newydd-anedig nag yng ngogledd Lloegr neu Gymru.
“Mae angen dadansoddi ymhellach y cynnydd mewn gwrandawiadau byr rybudd yng Nghymru a Lloegr – rwy’n gweld yr ystadegau fel cam cyntaf at gydweithredu ag ymarferwyr proffesiynol ac aelodau teuluoedd hefyd i ddeall y duedd hon ac ystyried a oes dewis arall yn hytrach na chychwyn achosion gofal mor fuan ar ôl genedigaeth y baban.”