

Mae’r dadansoddiad hwn o gofnodion presgripsiynau ar gyfer mwy na 100,000 achos o feichiogrwydd wedi canfod bod menywod a oedd wedi rhoi’r gorau i’w meddyginiaethau asthma mewn mwy o berygl o esgor cyn amser ac o beidio â bwydo ar y fron ar ôl 6-8 wythnos, tra bod y menywod hynny a oedd wedi parhau â’u corticosteroidau a fewnanadlir mewn llai o berygl. Gellid defnyddio cofnodion presgripsiynau i adnabod y menywod y mae angen help a chymorth ychwanegol arnyn nhw.
Mae presgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau asthma, ni waeth a ydyn nhw’n parhau i gael eu defnyddio yn ystod beichiogrwydd ai peidio, yn gysylltiedig â genedigaethau cyn pryd a babanod sy’n pwyso’n llai wrth iddyn nhw gael eu geni, yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn y cyfnodolyn mynediad agored PLOS ONE gan Sue Jordan o Brifysgol Abertawe a’i chydweithwyr.
Mae mynychder asthma yn ystod beichiogrwydd wedi cynyddu ledled y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac nid oes cytundeb barn ynghylch effaith asthma neu feddyginiaethau asthma ar ddeilliannau amenedigol. Fodd bynnag, gwyddys y gall meddyginiaethau a ragnodir ar gyfer asthma groesi’r brych.
Yn yr astudiaeth newydd, dadansoddodd ymchwilwyr bob genedigaeth yng Nghymru, gan ddefnyddio Cronfa Ddata SAIL, ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd rhwng Ionawr 2000 a Rhagfyr 2010, ynghyd â’r data cysylltiedig ar gyfer mamau beichiog sy’n derbyn presgripsiwn (117,717 o enedigaethau). Diffiniad dod i gysylltiad â meddyginiaeth asthma oedd bod o leiaf un feddyginiaeth asthma wedi’i rhagnodi i’r fenyw yn ystod y tri thymor o dri mis o feichiogrwydd. Ni chynhwyswyd yn yr astudiaeth yr achosion hynny o feichiogrwydd a derfynwyd o ganlyniad i anomaleddau yn y ffetws, babanod ag anomaleddau cynhwynol, achosion o feichiogrwydd nad oeddyn nhw’n unig blentyn wrth i’r fam esgor, a’r rheiny a ddaeth i gysylltiad â chyffuriau neu sylweddau eraill sy’n gysylltiedig â deilliannau amenedigol.
Cysylltwyd presgripsiynau ar gyfer asthma â genedigaeth cyn 32 wythnos o feichiogrwydd a phwysau geni o dan y 10fed ganradd. Ar ben hyn, cysylltwyd peidio â pharhau â meddyginiaeth asthma ag esgor cyn 32 wythnos yn ogystal ag esgor cyn 37 wythnos. Hefyd, roedd marw-enedigaeth yn fwy cyffredin ymhlith menywod y rhagnodwyd meddyginiaethau asthma iddyn nhw na’r boblogaeth na ddaeth i gysylltiad â nhw, yn enwedig os nad oedd y menywod wedi parhau â’r meddyginiaethau yn ystod y beichiogrwydd. Casgliad yr awduron yw bod angen mwy o fonitro, cefnogaeth wedi’i thargedu a rheolaeth weithredol o asthma cyn, yn ystod ac ar ôl y beichiogrwydd.