

Fel cenedl rydym yn amrywiol yn ddaearyddol ac yn gymdeithasol, sy’n golygu bod lle rydym yn byw a sut rydym yn symud o gwmpas yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd a’n lles.
Er mwyn llunio polisïau gwell ar gyfer pobl Cymru mae angen inni ddeall rhagor am sut a pham mae ein daearyddiaeth yn effeithio arnom, ac nid yw hyn wedi bod yn bwysicach nag yn ystod pandemig COVID-19.
Mae Dr Richard Fry, Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn esbonio rôl GIS yn ymateb Un Gymru i COVID-19.
“Mae daearyddiaeth wrth wraidd y cysylltiadau dienw a’r gwaith dadansoddi a wneir yn ddiogel ym Manc Data SAIL, naill ai fel dull cysylltu data neu fel uned dadansoddi ystadegau.
Mae gan SAIL systemau unigryw sy’n ein galluogi i ddadansoddi sut mae pobl yn symud o gwmpas yng Nghymru a sut mae amgylcheddau adeiledig a naturiol, ynghyd â nodweddion cymdeithasol, yn effeithio ar ein hiechyd.Yn ystod pandemig COVID-19, mae’r dulliau sylweddol hyn i ddiogelu preifatrwydd, ynghyd â chael gafael ar ddata newydd, yn golygu ein bod wedi bod yn gallu cynnull pobl at ei gilydd at ddiben dadansoddi ystadegol ar lefel y cartref heb wybod pwy ydynt neu le maent yn byw, er mwyn astudio effaith y clefyd.
Mae hyn wedi galluogi’r tîm Un Gymru sy’n cynnwys dadansoddwyr, gwyddonwyr data a chydweithwyr ym maes polisi i ddeall sut mae cyflyrau iechyd aciwt a chronig yn effeithio ar bobl ar wahân i’r rhai sy’n dioddef o’r clefyd, neu sut mae ansawdd tai yn gallu effeithio ar sawl cenhedlaeth mewn teulu, er enghraifft.Mae’r egwyddor hwn yn gallu bod yn berthnasol i fathau eraill o leoliadau preswyl hefyd, megis Cartrefi Gofal, lle gallwn gynnull unigolion at ei gilydd yn ddienw er mwyn deall effeithiau byw’n gymunol neu ddigwyddiadau iechyd cyhoeddus byd-eang megis COVID-19.

Mae’r dulliau cysylltu hyn a’r deallusrwydd dilynol yn rhannau hanfodol wrth ddeall COVID-19 yng Nghymru ac ymateb Un Gymru.
Yn dilyn hyn, rydym wedi medru dangos gwerth daearyddiaeth a mapiau wrth ddylanwadu ar yr ymateb i COVID-19.Fel rhan o dîm ar draws rhwydwaith HDR UK, rydym wedi trefnu i SeRP gadw fersiynau diogel cysylltiedig a di-gysylltiedig o’r data gan yr ap COVID-19 ZOE sydd wedi ein galluogi i gynhyrchu modelau o fannau problematig y gellir eu rhagweld ar lefel leol.
Mae’r canlyniadau ar ffurf map wedi mynd yn syth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban trwy HDRUK Cymru a Gogledd Iwerddon a BREATHE, gan roi gwybodaeth i wneuthurwyr polisi am ragfynegiadau ynghylch nifer yr achosion o fis Ebrill ymlaen.
Am ragor o wybodaeth am sut mae Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a gwaith dadansoddi data yn helpu i ateb cwestiynau yng Nghymru, gan gynnwys gwaith ymateb i COVID-19 ac enghreifftiau o waith GIS, ewch i: //://myuni.swan.ac.uk/
To see the list of currently available data sources and their cadence, along with the latest SAGE reports please see the HDR UK website which is updated on a weekly basis: //://www.hdruk.ac.uk/covid-19/
BY CATHRINE RICHARDS, SWANSEA UNIVERSITY
Read the Geospatial Commission Blog //://geospatialcommission.blog.gov.uk/2020/08/13/datgloi-pwer-lleoliad-strategaeth-geo-ofodol-a-geospatial-perspective-from-wales/