Banc Data SAIL i gefnogi UK-REACH: astudiaeth newydd yn y DU a lansiwyd i ymchwilio i risgiau COVID-19 ar gyfer staff gofal iechyd o gefndiroedd BAME
Mae’r astudiaeth ymchwil newydd, sy’n ymchwilio i risgiau COVID-19 ar gyfer gweithwyr gofal iechyd o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), wedi cael ei lansio yn sgil tystiolaeth bod cyfrannau uwch o farwolaethau cysylltiedig yn cael eu cofnodi yn y grwpiau hyn – mwy na dwywaith y gyfradd yn y boblogaeth wen.