Rydym yn ymrwymo i breifatrwydd trwy ddylunio ym mhob un o’n mentrau sy’n ymwneud â data. Mae hyn yn cynnwys adeiladu rheolyddion preifatrwydd trylwyr ym mhob agwedd ar ein gwaith, gan gynnwys bodloni gofynion llywodraethu gwybodaeth.
Nid yw llywodraethu gwybodaeth yn iawn yn golygu cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau yn unig, ond bod yn arloesol wrth roi modelau ar waith ac ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill i ddangos rheolaeth a mynediad at ddata y gellir ymddiried ynddynt.
Mae preifatrwydd trwy ddylunio’n cynnwys amrywiaeth o fesurau corfforol, technegol a gweithdrefnol a gymhwysir yn uniongyrchol i’r data ac i’r amgylchedd o’i gwmpas er mwyn sicrhau bod y data yn ddiogel ac er mwyn cynnal defnyddioldeb y data.
- Mae’r Adeilad Gwyddor Data yn gyfleuster diogel a adeiladwyd yn benodol sy’n darparu rheolyddion corfforol ar fynediad i ddata. Diogelir data gan amrywiaeth o ddulliau diogelwch technegol ar lefel y system gyfan ac ar lefel mynediad unigol. Y rheolyddion gweithdrefnol sy’n pennu pa ddata gellir mynd ato a sut defnyddir data.
- Mae Llwyfan Ymchwil Diogel y DU (UKSeRP) yn llwyfan technoleg a dadansoddi addasadwy y gellir ei deilwra i weithredu model preifatrwydd-trwy-ddylunio gofynnol.
- Mae Banc Data SAIL yn hafan ddiogel genedlaethol ar gyfer data iechyd dienw am boblogaeth Cymru a chaiff ei letya ar UKSeRP. Dyluniwyd model preifatrwydd-trwy-ddylunio SAIL yn ofalus er mwyn bodloni’r gofynion cyfreithiol a moesegol ar gyfer defnyddio data’r boblogaeth mewn modd sy’n dderbyniol yn gymdeithasol. Yn sgil hyn, mae SAIL yn uchel ei barch yn rhyngwladol; mae ganddo enw da diguro ar gyfer ailddefnyddio data’r boblogaeth mewn modd y gellir ymddiried ynddo, ac mae’n sail i lawer o’n mentrau sy’n canolbwyntio ar ddata.
